Newyddion S4C

Teyrnged i 'dad ffyddlon' fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin

26/10/2021
Ieuan Hayden Evans

Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Ieuan Evans, 60, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd am tua 13:05, ddydd Sul 17 Hydref.

Bu farw yn y fan a'r lle wedi'r gwrthdrawiad ar ffordd y B4310 Drefach i Borthyrhyd.

Dywed ei deulu y byddant yn "gweld ei eisiau yn fawr" a'i fod yn "ŵr annwyl" a "thad ffyddlon".

Roedd Mr Evans yn yrrwr tacsi "adnabyddus" yn ardal Rhydaman tan iddo ymddeol yn ddiweddar.

Roedd hefyd yn feiciwr modur brwd ac roedd ganddo nifer o ffrindiau yn y gymuned beicwyr modur, yn ôl ei deulu.

Mae ei deulu'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Roedd Mr Evans yn gyrru beic modur Yamaha yn y gwrthdrawiad â Ford Kuga arian ddydd Sul.

Mae'r heddlu yn apelio am unrhyw wybodaeth a fedrai fod o gymorth i'r ymchwiliad, gan ddefnyddio cyfeirnod DP-20211017-159.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.