Newyddion S4C

‘Pwysig sefydlu pont’ rhwng traddodiadau crefyddol hen a newydd

24/10/2021

‘Pwysig sefydlu pont’ rhwng traddodiadau crefyddol hen a newydd

Yn dilyn 43 mlynedd o weinidogaeth mae’r Parchedig Marcus Wyn Robinson yn ymddeol.

Dechreuodd Mr Robinson bregethu am y tro cyntaf yn 18 oed.

Ers dechrau ei yrfa mae Mr Robinson yn cydnabod bod Cristnogaeth wedi wynebu newid, ond mae’n ffyddiog y bod ffydd mor fyw ac erioed.

“Dwi’n cydnabod yn fy nghyfnod i mae ‘na newid ymhob cyfnod ond, efallai bod cyflymdra'r newid wedi bod yn fwy nag erioed yn fy nghyfnod i.

“Ond mae gen i gred y bydd yr Ysbyrd Glan yn sbarduno rhai o’r newydd yn yr amser a ddaw.

"Sut y bydden nhw’n gweithredu efallai fydd yn hollol wahanol i’r patrymau traddodiadol, ac yn bersonol does gen i ddim pryder o hynny o gwbl".

'Taf the Laugh'

Yn ystod ei yrfa mae Marcus Robinson wedi gwasanaethu capeli’r gogledd orllewin, ond yn ystod hanner ei yrfa mae wedi bod yn gwasanaethu fel caplan ar y llynges.

Yno hefyd roedd Marcus yn cael ei adnabod am ei hapusrwydd a’i chwerthiniad.

“Fel da chi’n gwybod, ma' gennai chwerthiniad iach iawn, mi roedd y morwyr wrth eu bodd efo hynny a dyna pam fy enw i yn y llynges oedd 'Taf the Laugh'.

“Dwi’n falch iawn hyd heddiw bo’ fi’n cael fy nghofio am chwerthin, oherwydd yn anffodus dwi ddim yn meddwl bod llawer o’m nghyd weinidogion yn cael eu cofio am chwerthin ac am eu llawenydd.”

Image
S4C
Marcus Wyn Robinson ar y llynges.

Yn ôl Mr Robinson roedd ei brofiad ar y llynges wedi’i sbarduno i edrych ar draddodiadau yn fwy eang.

“Dwi wedi cael y fraint o nid yn unig gwneud gweinidogaeth traddodiadol, ond wrth gwrs dwi wedi treulio hanner fy ngweinidogaeth mewn caplaniaethau hollol wahanol.

“Ac mae morwyr yn bobl sydd ddim am eich gadael chi hyd braich. Oni'n rhiw deimlo hynny weithiau wrth edrych yn nôl.

"Mae morwyr yn eich gwyneb chi, isho gwybod pwy ydach chi, isho gwybod be 'da chi'n credu.

“A dwi’n gwerthfawrogi oedd ‘na gymal bach ers talwm yn y comisiwn roedd y Frenhines yn rhoi i chi fel caplan, sef eich bod yn gyfaill ac yn gynghorydd i bawb.

“Dwi’n hoff iawn o’r cymal yna, a dwi’n gobeithio fy mod wedi ceisio bod felly, a bod yn fi fy hun".

‘Dynoliaeth ydi’r broblem’

Mae Mr Robinson yn credu y dylai crefyddau dderbyn bod diwylliant crefyddol yn datblygu gydag amser.

“Problem rhai pobl, os gai fod mor hy, ydi bod eu crefyddau nhw yn meddwl bod nhw’n dal gafael ar yr hen ffyrdd o neud pethau.

“Yn bersonol dwi wedi gwahaniaethu erioed rhwng crefydd a ffydd. Yn y pendraw dwi ddim yn gweld fy hun fel dyn crefydd, ond yn ddyn ffydd.

“Dwi’n meddwl mai dynoliaeth ydi’r broblem, pobl sydd ddim yn hoffi newid, ond mae Duw yn newid ymhob cenhedlaeth y pethau sydd yn sicrhau bod ei neges o yn effeithiol i gyrraedd pobol".

Mae Mr Robinson yn edrych ymlaen ar gael saib ac i eistedd ochr arall y sedd fawr.

“Braf i mi ydi diosg y cyfrifoldeb a medru yn syml ymlacio, a gwrando gobeithio yn astud ar bwy bynnag bydd yn pregethu fel dwi’n gobeithio y bod eraill wedi ceisio ar hyd y blynyddoedd efo finnau".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.