Cynnydd mewn 'cŵn strae ffug'

Cynnydd mewn 'cŵn strae ffug'
Mae'r pandemig wedi arwain at gynnydd mewn 'cŵn strae ffug', lle mae pobl brynodd cŵn yn ystod y cyfnod clo yn esgus eu bod yn gŵn strae er mwyn cael gwared ohonyn nhw.
Yn ôl canolfannau achub gall hyn arwain at gŵn strae go iawn yn gorfod cael eu difa.
Ar ôl derbyn 7,000 o geisiadau i fabwysiadu ers dechrau'r flwyddyn mae Hope Rescue bellach wedi gorfod atal ceisiadau.
"Mae gan lot o gŵn sydd yma drafferthion ymddygiadol a meddygol, ac os ydy nhw'n dod fewn fel cŵn strae does dim syniad gyda ni beth yw'r stori," eglura Meg Williams, Rheolwr Datblygiad Menter yn Hope Rescue.
"Ond pe bai nhw'n dod fewn o'r teulu galle ni wybod yn gloiach beth yw sefyllfa'r ci, a byddai hynny'n rhoi help mawr i ni."
Bydd perchnogion naill ai yn galw gweithwyr achub ac esgus fod eu ci yn gi strae, neu yn cymryd yr anifail at ganolfan achub a dweud eu bod wedi dod o hyd iddo.
"Mewn un ffordd ma' fe'n drafferth i ni i gael cymaint yn dod fewn fel rhai ffug, ond hefyd ma’ fe'n drafferth i'r ci ei hunain achos 'da ni ddim yn siŵr sut i helpu yn y ffordd gyflymaf posib.
"'Da ni'n credu bod y nifer o gŵn strae ffug wedi mynd lan gan fod cŵn wedi dod yn fwy poblogaidd drwy'r cyfnod clo."
Yn ôl Meg Williams mae cyflwr y bridio hefyd wedi chwarae rhan.
"Mae'r lles isel bridio wedi mynd lan llawer a 'da ni'n credu bod lot o bobl wedi cael cŵn sy' ddim yn siwtio nhw.
"Os nad yw'r teulu wedi gweithio mas i'r ci yr hyn sy'n digwydd yw sefyllfa cŵn strae ffug, ac mae perchnogion yn trio cael y ci i dop ein rhestr ni'n gloiach."
Yn ogystal â hyn yn aml nid yw'n bosib symud ci i ganolfan achub gwahanol oherwydd mae prinder lle trwy'r rhwydwaith gyfan.