Newyddion S4C

Actor yn benderfynol o ddilyn ei freuddwyd ar ôl cael cynnig ‘arlwyo neu godi waliau’

Actor yn benderfynol o ddilyn ei freuddwyd ar ôl cael cynnig ‘arlwyo neu godi waliau’

Arlwyo neu godi waliau – dyma ddau gynnig gafodd Justin Melluish yn yr ysgol pan oedd yn ceisio cynllunio llwybr ei yrfa.

Ond roedd Mr Melluish, sydd bellach yn 32 oed ac sydd â Syndrom Down, yn benderfynol o chwalu disgwyliadau’r byd ohono.

Yn actor a pherfformiwr brwd, mae’r gŵr o’r Wyddgrug wedi serennu mewn sawl cynhyrchiad theatr ar hyd y blynyddoedd.

Ond, mae ei rôl ddiweddaraf ar y teledu yn golygu bod ei “freuddwyd wedi dod yn wir”, meddai.

Mae’n chwarae rôl Glyn Thomas yng nghyfres newydd drama Craith ar S4C.

Image
Craith - Glyn Thomas
Mae Justin Melluish yn dweud ei fod yn "falch iawn" o chwarae cymeriad Glyn Thomas (Llun: S4C / Craith)

Yn ôl Mr Melluish, mae’n deimlad anhygoel i chwarae cymeriad mewn cyfres deledu am y tro cyntaf.

“Mae’n deimlad gwych, mae’n freuddwyd wedi dod yn wir,” dywedodd wrth Newyddion S4C.

“Rwy’n teimlo’n falch o’n hun yn chwarae Glyn Thomas. Dyma’r teimlad gorau erioed. Mae’n wych gwylio’n hun ar y teledu.”

Ar yr aelwyd y dechreuodd diddordeb Mr Melluish mewn perfformio, ag yntau’n dod o deulu o berfformwyr.

“Dwi wrth fy modd yn actio. Dyma oll wyf wedi bod eisiau ei wneud. Mae’n rhan fawr o fy mywyd, dwi’n angerddol drosto.

“Fe ddechreuodd o gyd pan nes i ddechrau gwneud sioeau adref gyda fy mrodyr a’n chwaer.

“Yn yr ysgol uwchradd, nes i ymuno â’r theatr a nes i ddewis drama. Nes i gael TGAU mewn drama ac o’n i ar flaen y papur newydd lleol.”

Chwalu ffiniau

Mae mam Mr Melluish, Karin Melluish yn dweud ei bod bob amser wedi cefnogi ei mab i ddilyn ei freuddwydion.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Pan gyrhaeddodd Justin yr adeg pan oedd rhaid iddo wneud penderfyniadau am ei yrfa, roedd o’n benderfynol o oed ifanc iawn. Roedd o’n caru perfformio ac actio, a dyna’n union oedd o eisiau ei wneud.”

Image
Glyn Thomas
Yn ôl Justin Melluish, mae wedi bod â diddordeb mewn perfformio ers erioed (Llun: S4C / Craith)

Esboniodd Ms Melluish sut y cafodd ei mab gynnig yn yr ysgol i ddilyn cwrs arlwyo neu godi waliau.

“Aethom ni i’r cyfarfod yma am opsiynau a phethau eraill, a natho nhw roi dau gynnig iddo,” ychwanegodd.

“Do’n i ddim yn hapus iddo ddewis naill neu’r llall, a nes i neud o’n glir na fyddai rhaid i mi frwydro dros fy mhlant eraill i gael dewis eu gyrfa eu hunain. Felly pam dylai Justin gael ei drin yn wahanol?”

‘Brwydro am flynyddoedd’

Yn ôl Ms Melluish, mae’n “hen bryd” gweld cymeriadau sy’n cael eu portreadu gan actorion fel ei mab ar y sgrîn.

“Rydym ni fel teulu yn llwyr gefnogol i weld amrywiaeth ac actorion yn cael eu cynrychioli ar y sgrin. Nes i frwydro am flynyddoedd dros Justin.

“Allai ddim rhoi mewn i eiriau pa mor falch ydw i drosto. Dwi’n teimlo fel bod fy nghalon i am fyrstio. Mae’r teimlad mwya’ anhygoel i’w weld o ar y teledu.”

Er nad yw ei mab yn siarad Cymraeg, mae Ms Melluish yn dweud ei bod yn falch iawn ei fod yn cael y cyfle i serennu ar gyfres ar S4C.

Ychwanegodd Justin: “Cefais amser fy mywyd yn actio ar Craith. Doeddwn i ddim eisiau iddo ddod i ben.”

Mae Craith yn parhau ar S4C nos Sul am 21:00, gyda modd dal fyny ar y gyfres hyd yn hyn ar S4C Clic neu BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.