Rhosyn John Ystumllyn: Enwi blodyn er cof am un o arddwyr du cyntaf y DU

22/10/2021
John Ystumllyn

Mae rhosyn wedi ei enwi er cof am y person du cyntaf i gael ei gofnodi yn byw yng ngogledd Cymru, a'r garddwr du cyntaf yn y DU.

Cafodd John Ystumllyn ei gipio fel plentyn o orllewin Affrica yn y 18fed ganrif, ac fe'i magwyd ar ystâd Ystumllyn ger Cricieth, lle bu’n gweithio fel garddwr.

Ef yw’r person du cyntaf i’w gofnodi i fod yn byw yng ngogledd Cymru, a thrwy ei briodas gyda’i wraig Margaret Gruffydd, roedd yn un rhan o’r briodas rhynghiliol gyntaf i gael ei chofnodi yng Nghymru.

Image
rhosyn
Y rhosyn er cof am John (Llun: Harkness Roses) 

Dyma’r rhosyn cyntaf i gael ei gyflwyno er cof am berson lleiafrif ethnig yn y Deyrnas Unedig, yn ôl y trefnwyr Harkness Roses a We Too Built Britain. 

Yn ôl Zehra Zaidi, sylfaenydd We Too Built Britain, roedden nhw’n dymuno “magu rhosyn newydd fel symbol o gyfeillgarwch, cariad a chymuned, ac i ysbrydoli pobl o bob cefndir i weld garddio fel gyrfa neu weithgaredd”.

Daw’r cyhoeddiad yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon.

Image
John Ystymllun
Mae John Ystumllyn wedi ei gladdu yn Eglwys Sant Cynhaearn ym Mhentrefelin ger Cricieth. 

Yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Iau, gofynnodd yr Aelod Seneddol ar gyfer Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, a fydd cyfle i’r Tŷ drafod yr “ystod o straeon pobl dduon er mwyn sicrhau fod rhosyn John Ystumllyn yn blodeuo fel symbol o gyfeillgarwch”.

Cafodd y stori ei disgrifio fel un “twymgalon” gan Arweinydd y Tŷ, Jacob Rees-Mogg. 

Bydd y rhosyn wedi blodeuo’n llawn yn cael ei arddangos yn Sioe Flodau Chelsea flwyddyn nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.