Newyddion S4C

Plant o leiafrifoedd ethnig ‘ddim yn gweld eu hunain’ yn y byd addysg yng Nghymru

22/10/2021

Plant o leiafrifoedd ethnig ‘ddim yn gweld eu hunain’ yn y byd addysg yng Nghymru

Mae athrawes o Sir Gaerfyrddin wedi dweud ei bod yn “broblem” nad yw plant o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn “gweld eu hunain yn y byd addysg".

Yn ôl Natalie Jones, sydd newydd gymhwyso fel athrawes, mae angen mwy o athrawon Duon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yng Nghymru er mwyn gwneud i’r genhedlaeth nesaf “feddwl am yrfa” ym myd addysg.

Dywedodd: “Ella'r problem ydy does dim llawer o athrawon du achos does dim llawer o plant wedi gweld athrawon du felly dy'n nhw ddim yn feddwl am fynd am y gyrfaoedd yna.

“Dydy nhw ddim yn gweld eu hunain fel pobl a allai fod yn y byd addysg".

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun newydd ddydd Gwener i recriwtio mwy o athrawon Duon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol.

Y nod yw cynyddu amrywiaeth ymhlith ymgeiswyr i gyrsiau addysg o 2022 ymlaen gan gynnig cymhellion ariannol am y tro cyntaf i ddenu mwy o athrawon dan hyfforddiant o leiafrifoedd ethnig.

Yn ôl Natalie Jones, dim ond un athro du arall y mae hi wedi dod ar ei draws wrth iddi hyfforddi a chymhwyso fel athrawes.

Dywedodd: “Ers i fi dechra gweithio mewn ysgolion dw i wedi dod ar draws un athro du arall.

“Dw i ddim wedi dod ar draws athro neu athrawes Asiaidd o gwbl.

“Mae na lot fwy o plant yn ysgolion ni na athrawon sydd yn dod o gefndir ethnig lleiafrifol".

'Ddim yn ddigon da'

Yn ôl ystadegau diweddaraf ar y Gweithlu Addysg, dim ond 1.3% o athrawon ysgol yng Nghymru oedd o gefndir ethnig lleiafrifol, o’i gymharu â 12% o ddysgwyr.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles nad yw hyn “yn ddigon da.”

Fis Rhagfyr 2020, cyhoeddodd mudiad Bywydau Du o Bwys faniffesto ar gyfer Cymru oedd yn nodi bod angen gwella amrywiaeth o fewn y byd addysg.

Yn sgil y cynllun newydd gan y Llywodraeth, bydd addysgu fel gyrfa yn cael ei hyrwyddo’n ehangach i bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol.

Hefyd, bydd yn ofynnol i gyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon gyrraedd canran benodol o ran recriwtio myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Yn syml, nid yw’n ddigon da bod llai na 2% o athrawon o gefndir ethnig lleiafrifol.

“Dyma pam rydyn ni'n lansio'r cynllun yma y mae ei wir angen, fel bod gennym ni weithlu sy'n adlewyrchu poblogaeth Cymru yn well.

Image
Betty Campbell
Cafodd cerflun o brifathrawes ddu gyntaf Cymru, Betty Campbell, ei ddadorchuddio yng Nghaerdydd ym mis Medi.

Yn ogystal â’r cynllun newydd, bydd gwobr arbennig yn enw Betty Campbell, prifathrawes ddu gyntaf Cymru, yn cael ei chyflwyno am y tro cyntaf yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru eleni.

Dywedodd Elaine Clarke, merch Mrs Campbell: “Mae’r Wobr yn ffordd hyfryd o hyrwyddo cynhwysiant yr holl grwpiau Duon, Asiaidd a lleiafrifol ac rydym yn siŵr y bydd y rhai fydd yn ei derbyn yn parhau i gael eu hysbrydoli, ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol, yn ôl troed ein mam.”

Dywedodd yr Athro Charlotte Williams, sy'n cadeirio'r gweithgor ar Gymunedau Duon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, Cyfraniadau a Chynefin yn y Cwricwlwm i ysgolion:

“Mae amrywiaeth yn thema ganolog a thrawsbynciol yn y cwricwlwm newydd. Bydd y wobr hon yn annog ysgolion i feddwl yn strategol am sut gallant ymgorffori'r dimensiwn pwysig hwn ym mhopeth maent yn ei wneud.

“Mae lansiad y wobr hon yn arwydd clir bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn gyflym i argymhellion yr adroddiad Gweinidogol ar amrywiaeth yn y cwricwlwm newydd.”

'Cam mawr'

Ddechrau mis Hydref eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd addysgu plant am hanes a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol yn dod yn rhan orfodol o gwricwlwm ysgolion yng Nghymru sy'n cael ei gyflwyno mewn ysgolion o fis Medi 2022.

Ond, dywedodd Natalie Jones bod angen mwy o athrawon o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig er mwyn gwireddu’r targed.

Dywedodd: “Mae’r cwricwlwm newydd yn addo i fagu plant sydd yn hyderus, sy'n gwybod am eu ardal sy'n gwybod am cynefin sy'n gwybod am y byd i gyd.

“Felly gallan ni ddim rili ddod â popeth mae'r cwricwlwm newydd yn gofyn heb edrych ar y cyfraniad mae pobl o ethnig lleiafrifoedd yma wedi gwneud a mae'n anodd i neud hynna heb athrawon o'r cefndiroedd yna.”

“Mae’r cynllun newydd yn gam mawr,” dywedodd.

Mewn datganiad, dywedodd Cadeirydd Cyngor Hil Cymru, Ray Singh CBE: “Ry’n ni’n credu bod y diweddar Betty Campbell MBE wedi gosod y bar yn uchel iawn ac ry’n ni’n cefnogi’r cynllun yma.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen i weld athrawon duon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol yn ysbrydoli plant ar hyd Cymru i ystyried y proffesiwn o addysgu fel llwybr gyrfa ar gyfer y dyfodol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.