Newyddion S4C

Galw am weithredu brys ar ôl i fam a merch aros saith awr am driniaeth mewn ysbyty

Newyddion S4C 20/10/2021

Galw am weithredu brys ar ôl i fam a merch aros saith awr am driniaeth mewn ysbyty

Ar ôl aros am dros saith awr mewn ystafell aros mewn ysbyty gyda’i merch, mae Lis McLean wedi galw am weithredu brys i ddiogelu cleifion a staff y gwasanaeth iechyd rhag pwysau’r gaeaf.

Tair blynedd yn ôl cafodd Delyth McLean sepsis wrth roi genedigaeth, ac ar ôl profi symptomau tebyg dros y penwythnos aeth ei mam a hi i Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful.

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, disgrifiodd Lis McLean y profiad fel bod mewn rhyfel.

“O'n i methu credu bod yr NHS wedi dod i'r sefyllfa yma, mae’n fregus a fi'n poeni’n arw amdano fe,” meddai.

“O'n i jyst yn teimlo dyw hyn ddim fel bod yng Nghymru. Mae'n teimlo fel war zone yma. O'n i'n gallu gweld hi'n mynd lawr, a lawr, a lawr. Mynd yn fwy melyn o hyd, ac yn fwy sâl. Ond doedd neb yna i helpu hi oherwydd oedd dim digon o staff yna.”

Image
Newyddion S4C
Lis McLean a'i merch Delyth McLean. 

Yn ôl Lis, roedd y sefyllfa yn yr ystafell aros yn erchyll.

“O'n i'n gwybod beth oedd yn bod gyda pawb achos oedd nhw'n dod mas a neud y 'consultations' yn yr ystafell aros," dywedodd. 

“A wedyn nath nhw dod mas a neud prawf gwaed ar rywun yn yr ystafell aros.

“Oedd e jyst yn teimlo mor lletchwith, oedd e'n hollol wahanol i unrhyw profiad dwi di cael mewn ysbyty o'r blaen.”

Wrth i’r oriau basio, dirywiodd cyflwr Delyth.

“Nath hi colapsio ar y llawr yn yr ystafell aros gyda pawb arall yna, ac o'n i'n rhedeg nôl a mlaen yn y coridor yn gweiddi am help," dywedodd Lis. 

"A daeth neb am be oedd yn teimlo fel tua deg munud.

“O'n i'n actually gorwedd ar y llawr gyda hi yn cwtsho hi yn dweud wrth i fod bob dim yn mynd i fod yn iawn."

 ‘Ddim digon sâl i gael gwely’

Ar ôl cael ei rhoi mewn gwely a derbyn moddion, mae ei mam yn dweud nad oedd dewis gan yr ysbyty ond symud Delyth i gadair.

“Roedd hi'n eistedd mewn cadair wedyn am weddill y diwrnod a pobl yn dod i weld hi yno," eglurodd Lis. 

“Doedd hi ddim yn gallu mynd adref achos gan bod angen iddyn nhw arsylwi hi a chadw hi mewn.

“Doedd hi ddim yn ddigon da i ddod adref, ond doedd hi ddim digon sâl i gael gwely.”

Haint yn yr arennau oedd achos salwch Delyth, sydd nawr adref yn gwella.

Ond gydag achosion Covid-19 a’r niferoedd sy’n cael eu trin mewn ysbytai yma yn codi unwaith eto, mae 'na bryder y bydd staff dan bwysau a straeon fel hyn yn fwy cyffredin wrth i'r gaeaf agosáu.

“Mae’r straen di bod ‘na trwy gydol y flwyddyn a hanner diwethaf, ac wrth gwrs mi fydd pethau’n mynd yn waeth wrth i ni weld y gaeaf yn datblygu,” meddai Dr Phil White, Cadeirydd BMA Cymru.

“Mae’n dangos be sy’ di digwydd i’r gwasanaeth iechyd dros y deg mlynedd diwethaf.

“’Da ni yn y storm berffaith, does dim digon o welyau, mae’r boblogaeth yn heneiddioac mae problemau iechyd yn cynyddu, a dros y gaeaf mi fydd pethau yn mynd yn fwy fwy anodd.”

Image
Google
Fe aeth Lis McLean a'i merch, Delyth,  McLean i Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful ar ôl profi symptomau o sepsis. [Llun: Google]

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Ni allwn wneud sylwadau ar ofal unigolyn, ond mae'n ddrwg gennym glywed bod Delyth Mclean a'i theulu yn teimlo ei y gofal yn is na'n safonau arferol.

"Mae urddas a chyfrinachedd cleifion yn hollbwysig ac nid yw'n arferol trafod manylion sensitif yn yr ystafell aros.

“Ni allwn wneud sylwadau ar statws cyflogaeth aelodau staff yn ein hadrannau. Fodd bynnag, mae unrhyw staff asiantaeth sy'n gweithio yn ein Hadran Damweiniau ac Achosion Brys wedi cymhwyso'n llawn ac wedi cael eu hyfforddi i ddarparu'r lefelau uchel o ofal yr ydym yn eu disgwyl, yn union fel ein staff parhaol.”

Image
Newyddion S4C
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, fod pwysau ar gofal iechyd yn "achos pryder mawr". 

Ddydd Iau, bydd y Gweinidog Iechyd yn amlinellu'n llawn ei chynllun i amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd rhag y gaeaf, ac mae'r gwrthbleidiau wedi galw am ymateb brys.

“Eleni mewn blwyddyn arall o bandemig mae'r gaeaf wedi cyrraedd yn barod ac mae gwasanaethau a staff ar eu gliniau cyn i ni gyrraedd yr amser prysuraf,” meddai Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru.

“Mae’n achos pryder mawr i ni gyd, ond gallwn ni ddim dychmygu'r pwysau sydd ar y staff, a dyna pam bod rhaid i ni gael y cynlluniau yma a'r strwythurau yma mor fuan â phosib.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.