Newyddion S4C

Cyhoeddi carfan merched Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2023

14/10/2021
Pêl droed merched Cymru

Mae hyfforddwr tîm pêl-droed merched Cymru, Gemma Grainger, wedi cyhoeddi’r garfan bydd yn chwarae yn rowndiau rhagbrofol ymgyrch Cwpan y Byd 2023 ym mis Hydref.

Bydd Cymru yn wynebu Slofenia oddi cartref ar 22 Hydref ac Estonia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 26 Hydref.

Mae Grainger yn croesawu Hannah Cain yn ôl wedi iddi golli gemau ym mis Medi oherwydd anaf.

Bydd Sophie Ingle a Jess Fishlock hefyd yn ymuno yn dilyn “nifer o ganlyniadau da i’w clybiau”.

Carfan merched Cymru - ymgyrch Cwpan y Byd 2023:

Laura O’Sullivan, Olivia Clark, Poppy Soper, Hayley Ladd, Gemma Evans, Rhiannon Roberts, Esther Morgan, Rachel Rowe, Lily Woodham, Sophie Ingle, Anna Filbey, Angharad James, Josie Green, Charlie Estcourt, Jess Fishlock, Carrie Jones, Chloe Williams, Ffion Morgan, Megan Wynne, Hannah Cain, Natasha Harding, Ceri Holland, Kayleigh Green, Helen Ward, Elise Hughes, Georgia Walters.

Bydd y gêm yn erbyn Slofenia yn nodi 200fed gêm swyddogol y tîm.

I nodi’r garreg filltir, mae enwau’r merched sydd yn y garfan wedi cael eu cyhoeddi mewn fideo gan gyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru, gan gynnwys Laura McAllister, Kath Morgan a Gwennan Harries.

Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.