Newyddion S4C

‘Na, ni blydi ddim’: S4C 'ddim yn croesawu' colli hawliau byw gemau rygbi'r Hydref

13/10/2021

‘Na, ni blydi ddim’: S4C 'ddim yn croesawu' colli hawliau byw gemau rygbi'r Hydref

Mae Prif Weithredwr S4C, Owen Evans, wedi dweud nad yw’r sianel yn croesawu colli’r hawliau i ddarlledu gemau Cymru yng nghyfres yr Hydref yn fyw.

Wrth ymateb i gwestiynau gan aelodau Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol Y Senedd, dywedodd Mr Evans, ei fod yn meddwl bod yr iaith Gymraeg a “sianeli fel S4C” yn wynebu “risg” o ganlyniad i’r cyhoeddiad.

“Fi yn credu bod ‘na risg i’r iaith a risg i sianel fel S4C ond hefyd yn fwyfwy i’r BBC a ITV sydd yn cystadlu am yr hawliau ‘ma”, meddai.

Amazon Prime fydd yn darlledu’r gemau, gyda chriw o gyflwynwyr a sylwebwyr i ddarparu sylwebaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mewn datganiad ddydd Mawrth, cyhoeddodd S4C y bydd yn darlledu uchafbwyntiau o’r gemau yn unig, a hynny awr wedi’r chwiban olaf.

Ar y pryd, dywedodd y sianel ei bod yn “falch i bartneru gydag Amazon Prime er mwyn sicrhau arlwy cynhwysfawr”.

Holodd yr Aelod Seneddol Plaid Cymru, Heledd Fychan, a oedd Mr Evans yn pryderu bod y bartneriaeth yn gosod cynsail.

Dywedodd Mr Evans wrth y pwyllgor fod gemau chwaraeon byw yn cynnig cyfle i S4C gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

“Ma' fe’n siawns i ni i groes-hyrwyddo rhaglenni S4C i bobl sydd yn aml iawn ddim yn cyffwrdd â’r iaith Gymraeg”, meddai.

“Felly, mae chwaraeon a cael yr hawliau sydd yn draddodiadol wedi dod aton ni drwy gwmnïau fel Sky a pobl fel ‘ny wedi bod yn werthfawr iawn”.

Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai’n well gan S4C ddarlledu’r gemau yn fyw.

“Dan ni’n croesawu’r ffaith bod ni wedi cael rhywfaint o highlights y rhaglenni awr wedi’r peth ond yn bendant fyse lot gwell ‘dan ni gael y rhaglen i ddarlledu’n fyw”, ychwanegodd. 

Fe fydd gemau Cymru yng nghyfres yr Hydref yn dechrau ar 30 Hydref, wrth i’r crysau cochion wynebu Seland Newydd yn Stadiwm Principality.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.