Newyddion S4C

Merthyr Tudful yn rhoi’r gorau i gais am statws dinas

12/10/2021
Merthyr Tudful

Mae cynghorwyr ym Merthyr Tudful wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen gyda chais am statws dinas yn dilyn pleidlais nos Fawrth.

Fe bleidleisiodd aelodau’r Cyngor o 21-10 i ddod â’r cynlluniau i ymgeisio i ben.

Derbyniodd aelodau’r Cyngor ganlyniadau holiadur a gafodd ei gynnal ar wefan y Cyngor dros gyfnod o dair wythnos.

Cyfrannodd 1,781 o bobl at yr holiadur, gyda 42.56% o blaid bwrw ymlaen a 57.44% yn erbyn parhau â’r cynlluniau.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywiad, Trawsnewid a Masnacheiddio, y Cynghorydd Geraint Thomas ei fod yn “siomedig iawn” gyda’r penderfyniad.

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: “Rydym wedi ystyried yr adborth ac mae’n bwysig nodi fod cynulleidfa fawr a oedd heb benderfynu neu heb ymateb.  Mae’r data Facebook, er enghraifft, yn datgelu fod 874 o bobl wedi gweld y cynnwys, ond dim ond 181 a barhaodd i bleidleisio.

“Ond, mae aelodau wedi bod yn gwrando ar adborth preswylwyr ac maen nhw’n teimlo mai nad nawr yw’r adeg briodol.  Rydym yn ymwybodol bod gennym heriau i ymateb iddynt, ond mae gennym ddyhead i ymgeisio eto yn y dyfodol”.

Fe fydd statws dinas yn cael ei ddosbarthu i ymgeiswyr llwyddiannus fel rhan o Ddathliadau Platinwm y Frenhines y flwyddyn nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.