Newyddion S4C

Menyw yn y llys wedi’i chyhuddo o achosi marwolaeth plentyn trwy yrru’n beryglus

Golwg 360 11/10/2021
llanelli

Mae menyw wedi ymddangos o flaen llys wedi’i chyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus ar ôl i blentyn gael ei ladd mewn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin. 

Roedd Lucy Dyer, 23 oed ac o Lanelli, gerbron ynadon y dref ddydd Llun.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar groesffordd Heol Goffa Llanelli am oddeutu 21:00 nos Wener. 

Mae Ms Dyer hefyd wedi’i chyhuddo o yrru cerbyd dan ddylanwad alcohol, yn ôl Golwg360.

Bydd yn parhau yn y ddalfa nes ei hymddangosiad nesaf yn Llys y Goron Abertawe ar 12 Tachwedd. 

Darllenwch y stori'n llawn yma

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.