Cyhuddo menyw o achosi marwolaeth plentyn drwy yrru'n beryglus
Mae menyw 23 oed wedi ei chyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus yn dilyn marwolaeth plentyn dwy oed yn Llanelli.
Mae Lucy Dyer sydd o Lanelli hefyd wedi ei chyhuddo o yrru o dan ddylanwad alcohol.
Mae hi wedi ei chadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos i wynebu'r cyhuddiadau yn ei herbyn yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Llun.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gar nos Wener am tua 21:00, gyda'r plentyn yn teithio mewn cerbyd gwahanol.
Ni chafodd unrhyw un arall eu hanafu yn y digwyddiad, yn ôl yr heddlu.