Plentyn wedi marw a menyw wedi ei harestio yn dilyn gwrthdrawiad yn Llanelli
09/10/2021
Mae plentyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Llanelli nos Wener.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am oddeutu 21:00 rhwng BMW Series 3 glas a Vauxhall Vectra glas.
Mae menyw wedi ei harestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus yn dilyn y gwrthdrawiad ar groesffordd Heol Goffa yn y dref.
Dywed Heddlu Dyfed-Powys bod y plentyn yn teithio mewn car gwahanol i'r fenyw, sy'n parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Ni chafodd unrhyw un arall eu hanafu yn y digwyddiad, yn ôl yr heddlu.
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth, ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r llu gan ddyfynnu rhif cyfeirnod DP-20211008-415.
Llun: Google