Newyddion S4C

Newidiadau i restr goch teithio Cymru yn dod gyda 'phryder'

07/10/2021
Teithwyr mewn maes awyr

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryder dros gyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar newidiadau i deithio rhyngwladol. 

Ddydd Iau, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd y bydd y rhestr goch yn cael ei ostwng i saith o wledydd, sef Colombia, Gweriniaeth Dominicaidd, Ecwador, Haiti, Panama, Periw a Venezuela.

Fe fydd 47 o wledydd, gan gynnwys De Affrica, yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr o ddydd Llun, 11 Hydref. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddant yn dilyn yr un newidiadau i'r rhestr goch â Lloegr.

Yn ogystal, mae Llywodraeth y DU am ymestyn system brechu Covid-19 mewn 37 o wledydd, gan gynnwys India, De Affrica a Thwrci.

Mae hyn yn golygu bod angen i deithwyr, sydd o wledydd eraill ac wedi'u brechu, gymryd prawf Covid-19 ar yr ail ddiwrnod yn unig pan yn cyrraedd Lloegr. 

'Pryderu' am y risg

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod yn parhau i fod yn "bryderus am y risgiau sy'n gysylltiedig â theithio". 

Dywedodd Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Rydym wedi bod yn pwyso’n gyson ar Lywodraeth y DU i gymryd camau mwy rhagofalus o ran teithio rhyngwladol er mwyn atal ailgyflwyno coronafeirws i’r DU, yn enwedig amrywiolion newydd ac amrywiolion sy’n dod i’r amlwg, efallai na fydd y brechlynnau’n effeithiol yn eu herbyn.

"Gan y bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n teithio i wledydd tramor yn gwneud hynny drwy feysydd awyr a phorthladdoedd yn Lloegr ac oherwydd bod Cymru’n rhannu ffin agored gyda Lloegr, er ein bod yn bryderus am y risgiau sy’n gysylltiedig â theithio, nid yw’n ymarferol i Gymru ddatblygu ei pholisi ei hun ar ffiniau, ar wahân i drefniadau gwledydd eraill y DU.

"Rydym yn pryderu am effaith gronnol y risg sy’n gysylltiedig ag ehangu teithio, yn enwedig o wledydd risg uchel.

"Mae’r holl fesurau hyn gyda’i gilydd yn cynyddu’r risgiau o gyflwyno amrywiolyn newydd i Gymru a’r DU yn sylweddol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.