Newyddion S4C

Ystyried gwahardd timau rhag gwisgo coch a gwyrdd yn erbyn ei gilydd

Mail Online 07/10/2021
S4C

Mae hi'n bosib y gall Cymru ac Iwerddon yn cael eu gwahardd rhag chwarae yn eu lliwiau traddodiadol er mwyn gwneud y gêm yn haws i wylwyr sy’n lliwddall.

Golygai hyn y bydd rhaid i Gymru newid lliw cit wrth chwarae gêm oddi cartref yn erbyn Iwerddon.

Mae’r disgwyl i’r newid cael ei weithredu ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2027, lle bydd gemau rhwng citiau coch a gwyrdd yn cael eu gwahardd i gynorthwyo'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd adnabod a gwahaniaethu rhwng y lliwiau.

Yn ôl y Mail Online, mae anhawster i wahaniaethu rhwng y lliwiau coch a gwyrdd yw'r math mwyaf cyffredin o ddallineb lliw, gan effeithio oddeutu un o bob 12 dyn ac un o bob 200 o ferched.

Ni fydd y newid yn dod i rym ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2023 gan fod dyluniadau’r citiau eisoes wedi eu cwblhau.

Darllenwch y stori'n llawn yma. 

Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.