Galw am ‘weithredu ar frys’ yn dilyn rhybudd am ddarpariaeth trydan dros y gaeaf

Mae arweinwyr diwydiannau trwm yn galw am weithredu “ar frys” wrth i adroddiad gan y Grid Cenedlaethol awgrymu y bydd cyflenwad trydan yn “dynnach” y gaeaf hwn nag y llynedd.
Mae’r Grid wedi dweud mewn adroddiad ddydd Iau y bydd cyflenwadau yn cwrdd ag anghenion y wlad dros y gaeaf, ond y gallai biliau trydan godi.
Yn ôl Sky News, mae Gweinidog Busnes Llywodraeth y DU, Kwasi Kwarteng wedi dweud y gallai "rhagor o gwmnïau fynd i’r wal" oherwydd cynnydd mewn prisiau ynni.
Daw disgwyliadau’r Grid Cenedlaethol wrth i gost ynni crai, fel nwy, gynyddu ar “raddfa ddigynsail.”
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Nayuki drwy Flickr