Newyddion S4C

Bardd Plant newydd Cymru ddim yn 'ystyried ei hun yn fardd’

07/10/2021

Bardd Plant newydd Cymru ddim yn 'ystyried ei hun yn fardd’

Gall Newyddion S4C gadarnhau pwy yw Bardd Plant nesaf Cymru.

Casi Wyn o Fangor fydd yn cymryd yr awenau gan y prifardd Gruffudd Owen, sydd wedi bod yn y rôl ers 2019.

Yn gantores, cyfansoddwr ac awdur – mae Casi, sy’n dod yn wreiddiol o ardal Bangor, yn cyfaddef nad yw hi’n ystyried ei hun yn fardd, ond bod ysgrifennu yn rhan “reddfol” ohoni.

Dywedodd Casi wrth Newyddion S4C: “Ma’n ddoniol achos, dwi’m yn meddwl mod i’n ystyried fy hun yn fardd o reidrwydd. Hynny ydi, dwi erioed wedi gwneud penderfyniad bwriadol o drio bod yn unrhyw beth ond rhywun sydd yn mynegi yn barhaus ac yn eitha naturiol.

“Ond ma’ barddoniaeth wrth gwrs yn rhan mor elfennol o fod yn perthyn i Gymru, mae o’n rywbeth greddfol iawn hefyd.

“Mae alaw yn rywbath tu hwnt o farddonol, ac mae mherthynas i efo geiriau wasdad wedi bod yn rwbath reit benodol. Mi oedd cerddi yn cael argraff ddofn iawn arna fi yn blentyn, a chwedlau a delweddau hefyd achos mae barddoniaeth yn rwbath tu hwnt o ddelweddol. Maen nhw gyd yn perthyn i’r un byd. Ond mae ‘na fardd ym mhawb.”

'Goleuni newydd ar farddoniaeth'

Mae Casi yn un o sefydlwyr gwasg annibynnol a chylchgrawn Codi Pais.

Yn 2021 fe ryddhaodd lyfrau dwyieithog cerddorol i blant, Tonnau Cariad a Dawns y Ceirw, gyda'i ffilm fer gerddorol animeiddiedig Dawns y Ceirw wedi ei ddarlledu ar S4C ar noswyl Nadolig 2020.

Daw’r cyhoeddiad am ei phenodiad yn dilyn galwad agored gan Lenyddiaeth Cymru am geisiadau ar gyfer y rôl ym mis Mai 2021.

Mae Bardd Plant Cymru wedi bodoli ers y flwyddyn 2000, ac ers hynny mae 16 bardd wedi bod yn y rôl.

Bydd Casi yn gweithio’n bennaf gyda phlant rhwng 5-13 oed.

Dywedodd ei bod hi’n teimlo’n llawn cyffro i gael dechrau’r gwaith.

“Es i am y rôl yma i ysbrydoli a thanio dychymyg plant. Mewn oes mor ddigidol, lle da ni ynghlwm â sgrin ac yn gaeth i’r like button, dwi’n meddwl bod ‘na gyfle euraidd yn fan hyn i ailgysylltu ‘chydig bach efo hud a lledrith, gyda pŵer geiriau, i gyfathrebu gyda’n gilydd.

"Dwi'n edrych mlaen i roi goleuni newydd ar farddoniaeth yn y Gymraeg, a'i gyflwyno fo o'r newydd i blant sydd bosib ddim yn siarad Cymraeg ar eu haelwydydd yn naturiol."

Gyda phandemig Covid-19 yn parhau i gael effaith ar y byd, mae Casi yn gobeithio y bydd cyfle unwaith eto i gael ymweld â'r ystafell ddosbarth dros ei chyfnod.

Ychwanegodd: "Dwi wir yn gobeithio gai fynd mewn i'r ystafell ddosbarth i deimlo egni plant. Ma' gneud pethau dros y we a dros sgrin, yn sicr, mae pellter yn gallu amharu ar y cyswllt yna yn aml iawn. Felly gobeithio gai gyfla i deimlo'r agosatrwydd 'na."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.