Graddau arholiad yn debygol o fod yn is i ddisgyblion 2022
Mae’n debygol y bydd disgyblion Cymru sy’n sefyll arholiadau yn 2022 yn derbyn graddau is.
Daw hyn oherwydd bwriad y corff sy'n gyfrifol am arholiadau yng Nghymru ddatgan eu bwriad i ddilyn trefn arholi Lloegr.
Bydd ffiniau graddau ar gyfer Safon Uwch, UG a TGAU a'r Dystysgrif Her Sgiliau yn cael eu gosod ar bwynt “hanner ffordd” rhwng canlyniadau 2019 a 2021.
Gobaith y drefn newydd yw y bydd canlyniadau erbyn 2023 yn ôl yn unol â chanlyniadau'r blynyddoedd cyn y pandemig.
Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru: “Rydym am sicrhau bod eu hasesiadau'r haf nesaf mor deg â phosibl.
“Bydd ein hymagwedd yn cyd-fynd â'r dull a ddefnyddir yn Lloegr. Mae hyn yn golygu y bydd canlyniadau yn 2022 yn adlewyrchu pwynt hanner ffordd yn fras rhwng 2021 a 2019 ac yn darparu chwarae teg i ddysgwyr Cymru, yn enwedig y rhai sy'n gwneud cais am fynediad i brifysgolion ledled y DU.
Cynlluno ymlaen
Cafodd arholiadau allanol eu canslo ddwy flynedd yn olynol yn 2020 a 2021.
Mis Mawrth eleni cyhoeddodd Cymwysterau Cymru y bydd arholiadau allanol i ddisgyblion yn cael eu haddasu "er mwyn cydnabod effaith y pandemig ar addysg myfyrwyr".
Mae cynlluniau wrth gefn yn cael eu gosod rhag ofn y bydd sefyllfa Covid-19 yn gwaethygu a bod yn rhaid dileu'r arholiadau eto'r haf nesaf.
Os bydd arholiadau'n cael eu canslo, gofynnir i ysgolion a cholegau ddyfarnu graddau penodedig i ddysgwyr.
Byddai'r dull gradd a bennir gan y ganolfan yn debyg i'r un a ddefnyddiwyd yn haf 2021 ond bydd “gwelliannau i ystyried y dysgu o ddull eleni".
“Byddwn yn gweithio gyda CBAC i hysbysu ysgolion a cholegau o'r cynlluniau hyn fel bod pawb yn glir ynghylch beth sydd angen ei wneud.
“Rydym yn gwybod y gall dysgwyr fod yn bryderus a bod ganddynt bryderon ynghylch dychwelyd i arholiadau, a dyna pam, rydym yn cynllunio ystod o gyfathrebu i'w cefnogi nhw,” ychwanegodd Mr Blaker.