Gwrthod cynlluniau caffi Abersoch dros bryderon am enw di–Gymraeg

Mae cynlluniau i adeiladu bar a chaffi newydd yn Abersoch wedi cael eu gwrthod gan gynllunwyr Cyngor Gwynedd oherwydd pryderon am yr enw di-Gymraeg.
Roedd cwmni Abersoch Land and Sea (ALS) wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer man bwyta ac yfed, o'r enw 'Apres Soleil', i gymryd lle pympiau petrol yr orsaf.
Yn y dogfennau cynllunio, nododd Cyngor Gwynedd ei “siom nad oedd unrhyw fwriad i gael enw Cymraeg ar gyfer y busnes ac nad oedd yn credu bod ystyriaeth deg i’r Gymraeg.”
Yn ôl North Wales Live, roedd y datblygwyr wedi addo dwy swydd barhaol a dwy swydd dros dro.
Roedd gwrthwynebiadau hefyd wedi eu codi gan Gyngor Cymuned Llanengan oherwydd pryderon ynghylch addasrwydd y fynedfa rhwng Lon Garmon a Lon Pont Forgan.
Nododd gynghorwyr eraill eu pryderon ynghylch mwy o sŵn a sbwriel byddai’n dod yn sgil y cynlluniau.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Cyngor Gwynedd