Polisi newydd banc yn 'hoelen olaf yr yr arch' i eisteddfodau bach
Mae'r gymdeithas sydd yn cynrychioli Eisteddfod Cymru yn pryderu y gall polisi newydd banc yr HSBC fod yn "hoelen olaf yn yr arch" i nifer o eisteddfodau bach ar draws y wlad.
Mewn ychydig wythnosau fe fydd yn rhaid i elusennau dalu ffioedd newydd er mwyn cadw eu cyfrifon gyda'r HSBC - a hynny ar gost o £60 y flwyddyn.
Hefyd fe fydd angen talu 1.5% wrth godi arian mân o'r cyfrifon ar gyfer digwyddiadau elusennol, ac mae hyn yn mynd i fod yn her ariannol ychwanegol medd nifer o elusennau.
Ddydd Mawrth fe anfonodd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru lythyr agored at fanc yr HSBC yn galw arnyn nhw i ail ystyried eu cynlluniau o gyflwyno costau ar gyfrifon elusennol a chymunedol, sydd yn dod i rym o fis Tachwedd ymlaen.
'Amserol ansensitif'
Mae Cymdeithas Eisteddfod Cymru, ynghyd â mudiadau a chymdeithasau eraill yng Nghymru, yn pryderu gall y costau gael effaith negyddol ar bwyllgorau lleol sy'n ceisio "ail gynnau'r fflam diwylliannol" yn dilyn heriau Covid-19.
Yn y llythyr, sydd wedi'i lofnodi gan Megan Jones Roberts, Cadeirydd Eisteddfodau Cymru, mae'r gymdeithas yn ategu mai'r "defnydd o lyfr siec ac arian parod [sy'n] parhau i fod yn greiddiol i gynnal nifer o ddigwyddiadau'n lleol" oherwydd diffyg cyswllt â'r rhyngrwyd mewn rhai ardaloedd neu sgiliau digidol, yn enwedig ymhlith cynulleidfa hŷn.
Nodwyd hefyd y byddai newid ym mholisïau’r banc yn weithred "amserol ansensitif, yn anghyfrifol yn ddiwylliannol, ac yn debygol iawn o beryglu dyfodol nifer" o ddigwyddiadau'r gymdeithas.
Ychwanegodd y gymdeithas: "Mae’n groesffordd ddiwylliannol arnom o ganlyniad i’r pandemig, ac ugeiniau o’n haelodau yn wirioneddol boeni am eu dyfodol, a’u gallu i fedru cynnal eisteddfodau lleol llwyddiannus unwaith eto.
"Anogaeth a chefnogaeth sydd ei angen ar hyn o bryd er mwyn i bwyllgorau yn lleol geisio dod o hyd i ffyrdd creadigol ac ymarferol i gynnal digwyddiadau o’r newydd."
'Ymrwymo i gefnogi elusennau'
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran banc HSBC UK wrth Newyddion S4C: “Dros y blynyddoedd, rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol i’n cynnig bancio busnes i ddiwallu anghenion esblygol ein cwsmeriaid.
"Gan gydnabod y buddsoddiad hwn, byddwn yn cynyddu ein taliadau mewn ffordd sy'n adlewyrchu'n fwy cywir y costau parhaus sy'n gysylltiedig â gwella a chynnal cyfrif banc busnes.
"Rydym wedi ymrwymo i gefnogi elusennau'r DU a chyrff nid er elw ac rydym yn hyderus bod ein cynnig yn parhau i fod yn gystadleuol iawn."