Nyrs yn gwadu llofruddio wyth babi mewn ysbyty

Mae nyrs wedi gwadu iddi lofruddio wyth babi a cheisio llofruddio 10 arall tra'n gweithio mewn ysbyty.
Fe wnaeth Lucy Letby, 31 oed, bledio'n ddieuog drwy gyswllt fideo mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Manceinion ddydd Llun.
Mae Letby wedi ei chyhuddo o lofruddio pum bachgen a thair merch tra'n gweithio yn Ysbyty Iarlles Caer yn ninas Caer.
Mae hi hefyd wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio pum bachgen a phum merch arall, gyda'r troseddau honedig wedi eu cyflawni rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.
Darllenwch y stori'n llawn yma.