Argyfwng tanwydd 'bron ar ben' i rannau o'r DU

Mae'r Gymdeithas Manwerthwyr Petrol wedi datgan fod argyfwng cyflenwi tanwydd "bron ar ben" mewn rhannau o'r Deyrnas Unedig, ond mae problemau'n parhau yn Llundain a de ddwyrain Lloegr.
Dywedodd y gymdeithas fod 17% o orsafoedd petrol yn parhau i fod yn wag yn y DU, tra bod 67% o orsafoedd wedi'u llenwi erbyn hyn.
Er hyn, mae 22% o orsafoedd petrol yn Llundain a de ddwyrain Lloegr yn parhau i fod yn wag, gyda 60% o orsafoedd wedi derbyn cyflenwad erbyn hyn.
Mae disgwyl i aelodau'r fyddin gludo tanwydd i orsafoedd mewn rhai ardaloedd o'r DU o ddydd Llun ymlaen.
Yn ôl Sky News, bydd oddeutu 200 o filwyr wedi derbyn hyfforddiant ar sut i lenwi tanceri, a 100 ohonynt wedi derbyn hyfforddiant gyrru tanceri.
Darllenwch y stori'n llawn yma.