Newyddion S4C

O Jackie Kennedy i Jan Morris: Diwedd cyfnod i ffotograffydd o Borthmadog

02/10/2021
Nigel Hughes

Mae un o gonglfeini ardal Porthmadog yn ffarwelio â’r stryd fawr wedi 30 o flynyddoedd y penwythnos hwn.

Bydd drysau siop gamerâu Nigel Hughes yn cau am y tro olaf ddydd Sadwrn ar ôl gwasanaethu’r gymuned ers 1988. 

Ar hyd y blynyddoedd, mae’r ffotograffydd wedi mynd trwy filoedd o ffilm, sawl camera gwerthfawr, ac wedi dogfennu ambell i drysor ar hyd y ffordd. 

Image
Jackie ac Edward Kennedy
Ted Kennedy, gyda'i chwaer-yng-nghyfraith, Jackie Kennedy Onassis yn Eglwys Llanfihangel-y-traethau yn 1985.  (Llun: Nigel Hughes) 

“Hwn ydy un o’r lluniau fwyaf eiconig sydd genna i mae’n siŵr,” meddai Nigel.

Tynnwyd y llun o Jackie Kennedy Onassis, cyn wraig Arlywydd yr Unol Daleithiau, J.F.Kennedy, a’i brawd yng nghyfraith Edward Kennedy yn angladd yr Arglwydd Harlech ym 1985. 

“Mae’n rhaid bod yna dros 100 o ffotograffwyr yno tu allan i’r eglwys yn Llanfihangel-y-traethau,” meddai.

“Peth nesa, dyma ryw foi oedd wedi bod yn sefyll o’m mlaen i yn diflannu, cyn dod yn ôl ychydig o funudau wedyn a dweud mewn acen Americanaidd: ‘Excuse me, I’ve been standing there for 30 minutes

“A dyma fi’n dweud wrtho fo: 'Excuse me, I’ve been living here for 30 years!'

“Ond oedd pob dim yn iawn wrth gwrs, oedd na ddigon o le – ac o ni yn agos iawn. 

“Ew, oedd ganddi [Jackie] lot o fêc-yp arni.” 

Image
Jan Morris
Yr awdur a'r newyddiadurwr, Jan Morris. (Llun: Nigel Hughes)

“Y diweddar Jan Morris wrth gwrs, ac roedd hi’n berson bendigedig.”

Roedd Jan Morris yn awdur a newyddiadurwr byd enwog, oedd yn byw yn ardal Llanystumdwy nes y bu farw ym mis Tachwedd 2020. 

“Yma mae hi yn cyhoeddi llyfr yn siop lyfrau Browsers i lawr y stryd,” meddai Nigel. 

“Beth oedd yn dda hefo Jan, o ni’n ‘nabod hi ers rhai blynyddoedd, a nes i dynnu llun ohoni dipyn o weithiau, a bob hyn a hyn swni’n cael galwad gan gylchgrawn y National Geographic yn dweud: ‘I believe you’ve got photographs of Jan Morris’.

“A chwarae teg, mi oedd y siec yn dod drwy’r post bob tro.” 

Image
Gerald
Y Tywysog Siarl yn cwrdd â Gerald Williams, nai Hedd Wyn, yn Nhrawsfynydd yn 2019. (Llun: Nigel Hughes)

“Dwi di cael sawl cyfle i dynnu llun o’r Tywysog Siarl, a fama mae o hefo'r diweddar Gerald, nai Hedd Wyn.”

Gerald Williams fu’n gyfrifol am warchod a chynnal fferm y teulu, Yr Ysgwrn, yn Nhrawsfynydd, cyn trosglwyddo’r awenau i Barc Cenedlaethol Eryri yn 2012. 

“Mi gafodd y Tywysog ymweliad preifat i’r Ysgwrn yn 2019 – a tasa chi’n taeru fod o’n edrych fel petai Gerald yn rhoi peltan iddo.

“Mae’n rhaid mi ddweud, mae’r Tywysog a’i dîm gwastad yn bobl reit ddymunol, ac mi oedd Gerald wrth ei fodd wrth gwrs.”

Image
Nigel Hughes
Nigel Hughes yn ifanc. 

Er iddo fwynhau gyrfa amrywiol cyn dechrau tynnu lluniau yn broffesiynol, fe ddechreuodd diddordeb Nigel mewn ffotograffiaeth pan oedd yn ifanc. 

“Ro ni’n 17 ac yn gweithio yn y Butlins Camp ym Mhwllheli, a cyn hynny ro ni wedi dysgu chydig bach am dynnu a datblygu lluniau. 

“Dyma fi’n mynd at Mrs Chapman, y rheolwr a dweud wrthi fy mod i eisiau tynnu lluniau, ac er bod y ffotograffwyr i fod yn 18 oed, mi nath Mrs Chapman adael i mi wneud.

Image
siop Nigel tu allan
Siop Nigel Hughes ym Mhorthmadog. 

“Diolch mawr iddi – ges i fod yn official photographer yn Butlins ar ôl hynny.”

Fe aeth Nigel i weithio mewn sawl maes, cyn dechrau tynnu lluniau yn broffesiynol yn 1981, ac agor y siop yn 1988. 

“Mae stryd fawr Porthmadog wedi newid dipyn ers hynny. Pedair neu pum busnes sy di bod yma ers i fi fod yma. Nac oes, sa na ddim llawer ohono ni ar ôl. 

‘Ffotograffiaeth wedi newid yn gyfan gwbl’

Wrth ystyried yr hyn sydd wedi newid yn ei faes ers iddo ddechrau, mae Nigel yn credu fod pethau wedi “newid yn gyfan gwbl”.

“Da ni mewn cyfnod lle mae 'na fwy o luniau yn cael eu tynnu nag erioed o’r blaen, ond ‘chydig iawn sy’n cael eu printio.

“Mae hynny yn biti, dwi’n trio dweud wrth bobol i brintio y pethau pwysig: y plant yn fach, y gwyliau – i greu hanes i’r teulu. 

“Achos mae creu hanes yn bwysig ar ddiwedd y dydd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.