Mis Medi cynhesach nag arfer i Gymru
Fe welodd Cymru fis Medi cynhesach nag arfer eleni, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Dim ond dau fis Medi sydd wedi bod yn gynhesach na'r hyn welodd Cymru yn 2021 ers i gofnodion ddechrau ym 1884, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Yr un yw’r patrwm ar draws y DU, gyda’r tymheredd ddwy radd selsiws yn uwch ar gyfartaledd hir-dymor ar gyfer y mis ledled Prydain.
Fe welodd Gymru ddyddiau o dymereddau uwch nag arfer hefyd, gyda thymheredd uwch na 30C yn cael ei gofnodi ym mis Medi am y tro cyntaf ers 1961.
Serch hynny, nid yw’r record o’r tymheredd uchaf i gael ei gofnodi yng Nghymru yn ystod mis Medi wedi ei dorri, sef 32.3C ym Mhenarlâg ar 1 Medi 1906.
Tu hwnt i Gymru, mae ffigyrau trawiadol wedi eu cofnodi yn yr Alban.
Fis yn unig cyn i gynhadledd COP26 gael i gynnal yn y ddinas, fe gofnododd Glasgow ei fis Medi cynhesaf ers i gofnodion ddechrau.
Daw hyn wedi i’r ddinas gofnodi’r haf poethaf erioed i gael ei gofnodi fis diwethaf.