Newyddion S4C

Bale ddim yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd

28/09/2021
Gareth Bale
Huw Evans Agency

Mae rheolwr dros-dro Cymru, Robert Page wedi cyhoeddi enwau'r 28 chwaraewr fydd yn cynrychioli'r tîm pêl-droed yng ngemau rhagbrofol Pencampwriaeth Cwpan y Byd 2022.

Ni fydd Gareth Bale yn rhan o’r  garfan genedlaethol i wynebu'r Weriniaeth Tsiec ac Estonia fis Hydref wrth i Gymru geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2022 yn Qatar.

Cafodd Bale anaf i’w ben-glin yn ystod hyfforddi gyda'i glwb Real Madrid yn gynharach yn y mis. Roedd disgwyl i Bale ennill ei 100fed cap dros Gymru.

Carfan Cymru

Wayne Hannessay, Daniel Ward, Adam Davies, Chris Gunter, Ben Davies, Connor Roberts, Chris Mepham, Joe Rodon, Tom Lockyer, Neco Williams, James Lawrence, Rhys Norrington-Davies, Aaron Ramsey, Joe Allen, Jonny Williams, Ethan Ampadu, Harry Wilson, David Brooks, Joe Morrell, Mathew Smith, Dylan Levitt, Daniel James, Kieffer Moore, Tyler Roberts, Brennan Johnson, Rubin Colwill, Mark Harris, Sorba Thomas.

Gemau Cymru y neu hymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd

Y Weriniaeth Tsiec - Dydd Gwener, 8 Hydref | CG 19:45 | Stadiwm Sinobo, Prag

Estonia – Dydd Llun, 11 Hydref | CG 19:45 | arena A. Le Coq, Tallinn

Bwlarws - Dydd Sadwrn, 13 Tachwedd | CG 19:45 | Stadiwm Dinas Caerdydd

Gwlad Belg – Dydd Mawrth, 16 Tachwedd | CG 19:45 | Stadiwm Dinas Caerdydd

Fe fydd y gemau yn cael eu darlledu yn fyw ar S4C.

Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.