
Plannu coed ar ffermdir: 'Dylai cwmnïau o du hwnt i’r ffin ddim elwa o arian cyhoeddus'

Plannu coed ar ffermdir: 'Dylai cwmnïau o du hwnt i’r ffin ddim elwa o arian cyhoeddus'
Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud fod cwmnïau sy’n prynu tir yng Nghymru i blannu coed yn gymwys i dderbyn cymorthdaliadau cyhoeddus.
Roedd Lee Waters yn ymateb i bryderon ynglŷn â chwmnïau sydd eisoes wedi prynu ffermydd yn ne a chanolbarth Cymru er mwyn plannu coed i wrthbwyso’r carbon y maen nhw’n ei greu.
Mae undeb NFU Cymru wedi rhybuddio na ddylai cwmnïau o du hwnt i’r ffin elwa o arian cyhoeddus o Gymru.
Dywedodd Mr Waters ei fod yn “rhannu’r pryderon” yr undebau, ond ei bod hi’n “amhosib atal pobl rhag prynu tir”.
Mae ymchwil diweddar yn dangos fod o leiaf 12 o ffermydd wedi eu prynu gan gwmnïau o du allan i’r wlad.
Ymhlith y rhain mae Foresight Group, cwmni buddsoddi rhyngwladol sydd wedi’i leoli yn y Shard yn Llundain.
Mae’r cwmni, sydd berchen pedair fferm yng Nghymru, eisoes wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu defnyddio’r tir ar gyfer plannu coed ac eu bod nhw’n bwriadu ymgeisio am grantiau’r llywodraeth.

Dywedodd Aled Jones, Dirprwy Lywydd NFU Cymru: “Dwi’n bryderus iawn os daw na gwmnïau o du allan i Gymru i gymryd tiroedd Cymru er mwyn lleshau eu gofynion digarboneiddio nhw’u hunain.
“Be wnawn nhw ydy defnyddio arian cyhoeddus o Lywodraeth Cymru tuag at y gwaith plannu ‘ma, ac fe ddylsa’r arian hwnnw aros yng Nghymru.
“Dydw i ddim am weld cefn gwlad Cymru yn cymryd y pwysau digarboneiddio yn ormodol y tu hwnt i beth sydd yn deg i’w gymryd.”

Mae modd derbyn y grantiau trwy gynllun Coedwig Genedlaethol y llywodraeth, a gyhoeddwyd yn 2020.
Mae’r cynllun yn anelu i greu coedwigoedd newydd ac mae modd i’r rhai sy’n bwriadu plannu coed i wneud ceisiadau am grantiau.
‘Rhannu’r pryder’
Wrth siarad ar raglen Ffermio S4C, dywedodd y dirprwy Weinidog Hinsawdd Lee Waters AS ei fod yn bryderus am y mater ond fe gadarnhaodd fod gan holl dirfeddianwyr yr hawl i ymgeisio am y grantiau.
“Mae rhai ffermwyr yn gwerthu eu tir i gyrff sy’n eu defnyddio fel cerbydau buddsoddi i blannu coed ar raddfa fawr.
“Yn sicr mae 'na dystiolaeth o hynny, dwi ddim yn sicr ar ba raddfa ond os nad ydyn yn mynd i’r afael a hyn, fe allai ddigwydd ar raddfa fawr ac rwy’n rhannu’r pryder am hynny.”
“Rydym yn darparu cymorthdaliadau cynnal a chadw am 12 mlynedd, ond be dydyn ni ddim eisiau gweld ydy cwmnïau mawr yn camddefnyddio'r rheini.”
Serch hynny, dywedodd fod “unrhyw dirfeddiannwr yn gymwys ar hyn o bryd” a’i bod hi’n “amhosib atal pobl rhag prynu tir”.
Ychwanegodd mai gobaith y llywodraeth yw gweld “ffermwyr Cymru” yn plannu coed, a’i fod yn awyddus i gydweithio gyda ffermwyr ar ddatblygu “drefn ariannu” sy’n plannu mwy o goed ac sy’n “cadw perchnogaeth a rheolaeth yn lleol”.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud eu bod yn bwriadu cynnal ymgynghoriad swyddogol ar y cynllun Coedwig Genedlaethol er mwyn ymgysylltu gyda chymunedau lleol a ffermwyr.