Newyddion S4C

Cerflun cyntaf o fenyw Gymreig wedi cyrraedd Caerdydd

27/09/2021
Betty Campbell

Mae’r cerflun cyntaf o fenyw Gymreig wedi cyrraedd y brifddinas fore dydd Llun.

Bydd y cerflun o'r athrawes Betty Campbell yn cael ei ddadorchuddio ddydd Mercher.

Mae sefydliad Monumental Welsh Women, sydd yn gyfrifol am sefydlu pum cerflun o fenywod mewn pum mlynedd yng Nghymru, wedi rhannu llun ar gyfryngau cymdeithasol, ar ôl i'r cerflun gyrraedd Caerdydd ar gefn lori.

Dywedodd y sefydliad mai ei nod yw newid y ffordd y mae merched yn gweld eu hunain: “Mae ein nod wedi ei ysbrydoli gan y ffaith nad oes un cerflun cyhoeddus yng Nghymru sy’n dathlu llwyddiannau menywod Cymreig. Dyw merched Cymreig ddim yn gallu gweld beth allan nhw fod. Ein nod yw newid hyn.”

Mewn pleidlais yn 2019, cafodd Betty Campbell ei dewis fel y cerflun cyntaf.

Fe'i ganed yng Nghaerdydd yn 1934 i dad o Jamaica a mam o Farbados, cyn dechrau gyrfa fel athrawes a dod yn bennaeth du cyntaf Cymru. 

Dywedodd Monumental Welsh Women: “Mae symudiad Black Lives Matter wedi arddangos y prinder amrywiaeth sydd gennym yn ein cerfluniau cyhoeddus.

“Roeddem wrth ein bodd pan ddangosodd y bleidlais gyhoeddus mai’r fenyw Gymreig gyntaf i gael ei choffáu – a’i dathlu – gyda cherflun, oedd Betty Campbell, prifathrawes ddu cyntaf Cymru ac ymgyrchydd cymunedol.

“Nid dim ond y fenyw Gymreig gyntaf i gael ei dathlu, ond y fenyw ddu Gymreig hefyd.”

Bydd y cerflun o Betty Campbell yn cael ei ddadorchuddio am 11:00 fore Mercher 29 Medi ger Sgwar Canolog, Caerdydd.

Llun: Monumental Welsh Women

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.