Rhybudd bod AI yn gyrru twf ymosodiadau seiber wrth i broblemau'r DWP barhau

Rhybudd bod AI yn gyrru twf ymosodiadau seiber wrth i broblemau'r DWP barhau

Mae arbenigwr technoleg gwybodaeth wedi rhybuddio bod twf systemau AI yn gyrru'r cynnydd mewn ymosodiadau seiber wedi i adran bwysig yn Llywodraeth y DU gadarnhau ei bod wedi cael ei thargedu.

Roedd nifer o wefannau yr Adran Waith a Phensiynau (DWP) yn parhau i fod i lawr fore Sul, mwy na 48 awr wedi i swyddogion ddatgan "digwyddiad seiber."

Fe arweiniodd hynny at benderfyniad i dynnu gwefannau sy'n caniatáu i bobl reoli eu pensiwn gwladol a budd-daliadau fel credyd cynhwysol a'r taliad annibyniaeth personol (PIP) oddi ar y we.

Ddydd Sadwrn, fe gadarnhaodd y DWP mai ymosodiad seiber oedd tu ôl y problemau, gyda llefarydd yn dweud bod 'na "ymgais i gael mynediad anawdurdodedig i'n systemau" wedi bod.

Ychwanegodd swyddogion bod dim tystiolaeth bod unrhyw ddata personol wedi ei ryddhau a bod taliadau yn parhau i gael eu prosesu fel arfer.

'Blwyddyn heb ei thebyg'

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Hywel Ifans, arbenigwr diogelwch digidol a chyfarwyddwr cwmni BCC IT yng Nghastell Newydd Emlyn, bod deallusrwydd artiffisial, neu AI, yn galluogi mwy o ymosodiadau ar systemau cyfrifiadurol.

Rhybuddiodd bod hon yn “flwyddyn nad 'yn ni wedi gweld ei thebyg hyd yn hyn” o ran nifer yr ymosodiadau.

Yn ôl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) cafodd dros 1,800 o ymosodiadau seiber eu hadrodd rhwng dechrau Medi 2025 a diwedd Awst 2026, gydag 80 ohonyn nhw'n rhai o arwyddocâd cenedlaethol.

Mae sawl ymosodiad wedi cael sylw yn yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys problemau meddalwedd sy'n rheoli oergelloedd ledled Ewrop a thrafferthion y manwerthwyr ffasiwn Next ac ASOS.

"Mae AI wedi cael ei ddefnyddio cryn dipyn i weithio allan sut i dargedu gwendidau sydd eisoes yn hysbys mewn systemau," meddai Mr Ifans.

"Felly os yw system yn oedrannus, mi fydd gwendidau ynddo fe, mae hynny'n sicr - hyd yn oed os yw e'n fodern, mae'n debygol o fod â gwendidau.

"Wedyn chi'n gallu defnyddio AI i dargedu'r union wendidau yna. Dyna, falle, pam ry'n ni'n gweld gymaint o gynnydd dros yr wythnosau diwethaf o systemau'n cael eu targedu.”

Pryderon am oedi taliadau

Dywedodd Llywodraeth y DU ddydd Gwener bod dim tystiolaeth i awgrymu bod adrannau arall wedi cael eu targedu, wrth i'r ymchwiliad i'r digwyddiad barhau.

Yn y cyfamser, mae swyddogion wedi ceisio lleddfu pryderon am oedi i daliadau pensiwn neu fudd-daliadau gan y DWP, sy'n prosesu 2.5 miliwn o daliadau bob dydd. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Pat McFadden, nad oedd y llywodraeth yn credu bod unrhyw oedi dros y dyddiau diwethaf yn gysylltiedig â'r ymosodiad seiber.

"Mae taliadau yn cael eu clirio sawl diwrnod o flaen llaw, felly ddylen nhw ddim gael eu heffeithio gan hyn," meddai.

"Ac mae hwn yn system, cofiwch, sy'n prosesu 2.5 miliwn taliad bob dydd, ac mae 'na wastad nifer fechan sydd ddim yn mynd drwodd am ryw reswm neu'i gilydd wrth i hynny ddigwydd.

"Felly dwi'n deall y pryderon, ond oes ydy rhywun yn y sefyllfa honno, cysylltwch â'r adran yn ystod oriau gwaith arferol, ac fe geisiwn ni ei sortio."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.