Cyhuddo tad Duges Sussex o feddu ar ddelweddau o gam-drin plant yn rhywiol
Mae rheithgor yn Los Angeles wedi penderfynu cyhuddo Thomas Markle, tad Duges Sussex, yn ffurfiol o ddau gyhuddiad o fod â deunydd sy’n dangos cam-drin plant yn rhywiol yn ei feddiant, yn ôl dogfennau’r llys.
Yn ôl y dditiad, roedd Markle “yn gwybod bod ganddo negatifau ffilm 35mm yn ei feddiant a oedd yn dangos deunydd rhywiol yn ymwneud â phlant”.
Mae rheithgor mawr (grand jury) yn yr Unol Daleithiau yn gwrando ar dystiolaeth yr erlyniad ac yn penderfynu a oes sail i gyhuddo rhywun yn ffurfiol.
Mae Markle, sy'n 82 oed, yn y ddalfa yn Florida ar hyn o bryd. Os bydd yn cael ei ddyfarnu’n euog, fe allai wynebu hyd at 20 mlynedd o garchar am bob cyhuddiad.
Y disgwyl yw y bydd yn ymddangos gerbron y llys yn ystod yr wythnosau nesaf, lle bydd cyfle iddo bledio’n euog neu’n ddieuog i’r cyhuddiadau.