'Dim cynlluniau' i leihau presenoldeb y BBC ym Mangor medd pennaeth dros dro BBC Cymru
Mae Cyfarwyddwr Dros Dro BBC Cymru wedi mynnu nad oes unrhyw gynlluniau i leihau presenoldeb y BBC ym Mangor, gan ddweud bod y ganolfan yn parhau'n "ganolog" i waith y gorfforaeth yng Nghymru.
Roedd Garmon Rhys yn ateb cwestiynau aelodau o Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon y Senedd ddydd Llun, ynghyd â Chyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Matt Brittin, a chyfarwyddwr Anweithredol y BBC, Michael Plaut.
Yn ddiweddar, fe wnaeth BBC Cymru gyhoeddi cynlluniau i dorri 58 o swyddi, lleihau 20 awr o raglenni teledu yng Nghymru a chanslo nifer o raglenni radio, gan gynnwys Dros Ginio - un o'i phrif raglenni newyddion a materion cyfoes dyddiol.
Mae'r cynlluniau yng Nghymru yn rhan o raglen ehangach o arbedion gwerth £500m gan y BBC erbyn 2028-29.
Gofynnodd cadeirydd y pwyllgor, Mair Rowlands AS, am effaith y newidiadau ar ganolfan y BBC ym Mryn Meirion, Bangor, gan dynnu sylw at ei rôl yn darlledu gwasanaethau Radio Cymru ac yn cynrychioli gogledd-orllewin Cymru.
"Fel aelod o'r gogledd, dwi wedi datgan pryder am yr effaith ar BBC Bangor," meddai.
"Mae lot o wasanaethau Radio Cymru yn cael eu darlledu o BBC Bangor hefyd, a chyn gwneud y penderfyniad i leihau capasiti a newid statws canolfan BBC Bangor, wnaethoch chi wneud asesiad o'r effaith ar gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith a hefyd cynrychiolaeth yna o ogledd-orllewin Cymru?
"A pha sicrwydd allwch chi ei roi heddiw nad dyma ddechrau mudiad graddol o rôl Bangor fel un o brif ganolfannau darlledu Cymraeg y BBC ers dros 90 mlynedd erbyn hyn?"
Wrth ymateb, dywedodd Garmon Rhys: "Does 'na ddim newid i statws y ganolfan.
"Mae'n ganolog i waith BBC Cymru ac yn arbennig felly yn yr iaith Gymraeg.
"Mae 'na hanes hir a chyfoethog i'n presenoldeb ni ym Mangor, ac does dim cynlluniau gynnon ni i dynnu'n ôl o'n presenoldeb ni yno.
"Mae bron i hanner gwasanaeth Radio Cymru yn dod o Fangor."
Ychwanegodd: "Ond eto mae'n deillio o'r her ariannol a'r ffaith bod rhaid i ni gymryd penderfyniadau anodd.
"Ac mae natur y ffordd 'da ni'n gweithio, mae'r timau weithiau'n gweithio ar draws canolfannau Caerdydd a Bangor, felly fyddai ddim yn bosib i ni, unwaith eto, ddweud bo' ni am dynnu staff Bangor allan o unrhyw broses diswyddo gwirfoddol.
"Fyddai hynny ddim yn ymarferol bosib.
"Ac hyd yn oed petai ni'n ceisio gwneud hynny, y risg fyddai cynyddu'r diswyddiadau gwirfoddol mewn rhannau eraill o Gymru."
Ym mis Tachwedd y llynedd, fe wnaeth y BBC ddathlu 90 mlynedd o ddarlledu o Fangor.
Un o ddatblygiadau mwyaf y BBC yng Nghymru oedd sefydlu gwasanaeth Radio Cymru yn 1977.
Ers hynny, mae tua hanner y rhaglenni wedi eu cynhyrchu a'u darlledu o Fangor.
'Creu loes i ni'
Yn gynharach yn y cyfarfod, mynegodd Lis McLean AS bryder ynghylch effaith y toriadau ar raglenni Cymraeg, gan gwestiynu a oedd y BBC yn cydnabod bod eu heffaith yn wahanol i doriadau i raglenni Saesneg.
"O'n i jyst isho gofyn ydych chi'n deall beth yw'r ffaith bod toriadau i raglenni Saesneg yn wahanol iawn i ni i doriadau i raglenni Cymraeg?" meddai.
"Ac i gael yr un canran o doriad, dyw e ddim rili yn adlewyrchu beth yw gwerth y darlledu Cymraeg i ni yng Nghymru.
"Achos os chi'n edrych nôl yn hanesyddol mae pobl wedi brwydro a mynd i'r carchar dros gadw darlledu Cymraeg yng Nghymru.
"Mae'r Gymraeg yn pwy ydyn ni a beth ydyn ni, a mae'n bwysig iawn bod ni'n gwarchod y Gymraeg ond hefyd yn sicrhau twf i'r Gymraeg ar gyfer y dyfodol.
"Felly, mae unrhyw doriadau i ddarlledu Cymraeg yn creu loes i ni a'n hiaith ni a'n diwylliant ni yng Nghymru."
Wrth ymateb i'w phryderon, dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Matt Brittin, ei fod yn deall pa mor ganolog yw'r Gymraeg i'r genedl.
"Rwy'n deall yn iawn pa mor ganolog yw'r Gymraeg, y brwydrau sydd wedi'u hymladd i'w diogelu," meddai.
"Ac rwy'n credu ei bod hi'n drawiadol iawn, mewn gwirionedd, wrth edrych ar effaith gwasanaethau Cymraeg y BBC, gweld y twf yn y gynulleidfa."
Ond dywedodd Mr Brittin ei bod yn "anochel" y byddai rhai o'r arbedion yn effeithio ar arlwy'r gorfforaeth.
Ychwanegodd y dylai'r BBC ganolbwyntio mwy ar effaith ei wasanaethau ar gynulleidfaoedd, gan ystyried nid yn unig faint o arian sy'n cael ei wario na nifer yr oriau sy'n cael eu cynhyrchu, ond hefyd nifer y bobl sy'n cael eu cyrraedd ac effaith y cynnwys arnynt.
Cyfeiriodd hefyd at bartneriaeth rhwng y BBC a Phrifysgol Bangor ym maes y Gymraeg, gan ddweud bod "cyfleoedd cyffrous" i ddefnyddio technoleg ar gyfer cyfieithu a thrawsgrifio, gan helpu i ddod â mwy o gynnwys i'r Gymraeg.
Ond cafodd ei sylwadau am ddefnyddio technoleg i drosi cynnwys i'r Gymraeg eu beirniadu'n ddiweddarach gan Matthew Jones AS.
"Gwych bod 'na dechnoleg ar gael i helpu trosi pethau i'r Gymraeg, ond dwi'n meddwl mai un o'r pwyntiau creiddiol fan hyn yw bod angen sicrhau bod cynnwys sydd yn cael ei greu yn gyntaf yn y Gymraeg a bod y Gymraeg, Cymreig yn hollbwysig," meddai.
"A dwi'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth mae nifer o bobl ar draws Cymru yn poeni amdano gyda thorri pethau fel Dros Ginio, ydi bod pethau sydd yn adlewyrchu pwy ydyn nhw yn gyntaf yn eu hiaith nhw yw'r peth sy'n cael ei golli fan hyn."
Ychwanegodd Mr Brittin nad oedd yn awgrymu y byddai technoleg yn cymryd lle rhaglenni Cymraeg.