Andy Burnham yn gobeithio taro bargen gyda'r UE ar bolisïau allweddol
Mae Prif Weinidog y DU yn gobeithio y bydd uwchgynhadledd rhwng yr Undeb Ewropeaidd a'i lywodraeth ddydd Gwener yn arwain at gydweithio agosach i'r dyfodol ar nifer o bolisïau allweddol.
Bydd Mr Burnham yn teithio i Frwsel ar gyfer yr uwchgynhadledd lle mae disgwyl iddo ddod i gytundebau newydd ar fwyd, ynni a hawliau pobl ifanc i weithio ar gyfandir Ewrop, ar ôl iddo ddweud nad yw’r cytundeb Brexit presennol yn ddigon da.
Ond mae wedi rhybuddio ei fod yn barod i droi cefn ar gytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd os nad yw o fudd i Brydain, wrth i’r trafodaethau fynd i’r pen cyn yr uwchgynhadledd fawr yng Ngwlad Belg.
Ym mis Medi, dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n edrych ar “fanteision ac anfanteision” pob opsiwn yn ymwneud ag ail-ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.
Mewn ymateb i ohebwyr oedd yn teithio gydag ef ddydd Iau, fe ddywedodd Mr Burnham ei fod “bob amser yn bosib” i Brydain dynnu’n ôl ar rai o ganlyniadau Brexit:
“Fy nod i yw cael y fargen orau i Brydain, bob amser," meddai.
“Ond beth sydd ynddo i ni? Mae’n bosibl y bydd prisiau bwyd yn gostwng, ac ni allaf droi fy nghefn ar hynny. Costau is i fusnesau a llai o fiwrocratiaeth.
“Ac fe allai fod yn llwyddiant mawr iawn o ran cydweithio’n agosach ar fewnfudo, gyda chynllun gweithredu ar gyfer y Sianel. Byddai hynny’n beth mawr iawn pe baem yn llwyddo i gytuno arno yfory.
“Felly rwy’n gobeithio bod pobl yn deall pam rwy’n gwthio am hyn, oherwydd gallai fod yn fargen dda iawn i Brydain.” meddai.
Cysylltiadau agosach
Dywedodd Mr Burnham fod arolygon barn diweddar yn dangos bod 73% o bobl Prydain o blaid cysylltiadau agosach ag Ewrop: “Nid mater o ailadrodd 2016 yw hyn. Nid mater o ail-ymuno sydd yma.
“Ond ar y cyfan, mae tri chwarter pobl Prydain yn cefnogi cysylltiadau agosach.
“A byddai’r fargen sy’n cael ei chyflwyno yfory yn creu cysylltiadau agosach a fyddai’n dod â’r holl fanteision y soniais amdanynt o ran costau byw, yn ogystal â chydweithio i fynd i’r afael â mewnfudo anghyfreithlon.
“Felly wrth gwrs, fel Prif Weinidog Prydain, rwy’n teimlo ei bod yn ddyletswydd arnaf i fynd o fan hyn i Frwsel a gwneud fy ngorau i sicrhau’r fargen honno.” meddai.
Yn ôl adroddiadau, mae'r DU wedi ildio i gynllun gwaith i bobl ifanc, gan gytuno i alwad gan yr UE am 100,000 o fisas gwaith y flwyddyn ar gyfer pobl ifanc o'r bloc gwleidyddol, a chodi'r terfyn oedran o 30 i 31.
Roedd cynrychiolwyr Prydain yn y trafodaethau wedi pwyso am derfyn is.
Mae Brwsel hefyd wedi gofyn am ffioedd dysgu is ar gyfer myfyrwyr o'r UE mewn prifysgolion yn y DU.
Beirniadaeth Reform
Beirniadodd arweinydd Reform UK, Nigel Farage, y posibilrwydd y byddai'n rhaid i'r DU dderbyn rheoliadau newydd gan yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd y gwleidydd ar GB News: “Ni fydd gan Senedd Prydain unrhyw ddweud yn y mater. Bydd unrhyw anghydfod yn cael ei farnu gan y Llys Ewropeaidd.
“Os nad yw hyn yn torri maniffesto Llafur yn llwyr - ac yn frad llwyr o’r hyn yr addawodd Andy Burnham i bobl Makerfield ddim ond ychydig fisoedd yn ôl - yna dydw i ddim yn gwybod beth ydyw.”
Mae disgwyl i Mr Farage gynnal ei gynhadledd i’r wasg ei hun, yn dilyn un y Prif Weinidog ddydd Gwener, i rybuddio yn erbyn cysylltiadau agosach â Brwsel.
Llun: PA
