Andy Burnham yn dweud y gallai gynnig ailymuno â’r Undeb Ewropeaidd

Andy Burnham

Mae Andy Burnham yn cydnabod y gallai fynd “yr holl ffordd” a chynnig ailymuno â’r Undeb Ewropeaidd wrth iddo ystyried perthynas y DU â Brwsel yn y dyfodol.

Dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n edrych ar “fanteision ac anfanteision” pob opsiwn.

Mae wedi beio Brexit am ddegawd o ddiffyg cyfeiriad yng nghynhadledd y blaid ddydd Marwth,

Dywedodd y Prif Weinidog fod Brexit wedi gwneud “mwy o ddrwg nag o les”. 

Fe wnaeth addo cyflwyno’r opsiynau gwahanol i’r wlad adeg uwchgynhadledd rhwng y DU a’r UE yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd wrth y BBC ei fod yn glir “i ble rydyn ni am i Brydain fynd dros y degawd nesaf”.

'Edrych ar yr opsiynau'

Pan ofynnwyd iddo a oedd am i’r DU ailymuno â’r bloc, dywedodd wrth raglen Today ei fod am “edrych ar yr opsiynau”.

“Fe allen ni aros fel rydyn ni. Mae hynny’n bendant yn opsiwn, os yw pobl yn meddwl mai dyma’r lle iawn i fod,” meddai wrth y rhaglen.

“Fe allen ni edrych ar yr hyn mae George Osborne [y cyn ganghellor Ceidwadol] wedi’i ddweud am undeb tollau. 

“Fe allen ni edrych ar yr hyn ddywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol yn eu cynhadledd am y farchnad sengl, neu fe allen ni fynd yr holl ffordd.”

Roedd maniffesto etholiad Llafur yn 2024 yn diystyru ymuno ag undeb tollau, dychwelyd i’r farchnad sengl neu ganiatáu rhyddid i symud unwaith eto rhwng y DU a’r UE.

Ond mae Mr Burnham wedi awgrymu ei fod yn barod i argymell mynd y tu hwnt i’r terfynau hynny yn y dyfodol.

“Mae’n amlwg bod angen ystyried rhai opsiynau, ac mae’n rhaid i ni edrych ar beth sy’n bosib a beth fyddai manteision ac anfanteision pob un,” meddai wrth y BBC.

Fe wnaeth y Ceidwadwyr ymateb i sylwadau Mr Burnham am yr UE drwy dynnu sylw at ei safbwynt yn ystod ei ymgyrch yn isetholiad Makerfield, pan ddywedodd nad oedd am “ailgynnal” y ddadl am Brexit.

Dywedodd dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr, Alex Burghart: “Allwch chi ddim ymddiried mewn gair mae Andy Burnham yn ei ddweud. 

“Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, dywedodd ei fod am symud ymlaen o’r dadleuon am Brexit. 

"Nawr mae’n llusgo Prydain yn ôl i’r dadleuon hynny drwy godi’r posibilrwydd o ailymuno â’r UE.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.