Penderfyniad i ganslo drama Foden 'er lles y dioddefwyr' - Prif Weithredwr S4C
Mae Prif Weithredwr S4C, Geraint Evans, wedi siarad am y tro cyntaf am y penderfyniad i ganslo drama ddadleuol ar achos y cyn-brifathro a'r pedoffeil Neil Foden.
Wythnos diwethaf fe gyhoeddodd S4C na fydden nhw’n parhau â chynhyrchiad cyfres ddrama gyda’r teitl gweithredol "Y Pennaeth" am achos y troseddwr rhyw, gafodd ei garcharu yn 2024.
Roedd y ddrama, gafodd ei chyhoeddi'n wreiddiol ym mis Awst, yn bwriadu "archwilio’r methiannau a’r cyfleoedd a gollwyd" i atal Foden cyn ei droseddu, yn ôl y sianel.
Ond wrth siarad am y tro cyntaf ers y tro pedol, fe ddywedodd Geraint Evans wrth raglen Newyddion S4C mai “lles y dioddefwyr a’r goroeswyr” oedd ei “ystyriaeth pennaf” wrth benderfynu canslo’r ddrama.
Wrth ymddangos mewn digwyddiad i lansio'r addasiad Cymraeg o Star Wars yng Nghaerdydd, dywedodd Mr Evans nad oedd yn “benderfyniad hawdd” i’w wneud.
“Ond wrth gwrs roedd rhaid i fi, fel Prif Weithredwr, ystyried lles y dioddefwyr a'r goroeswyr yn yr achos yma a dyna oedd yr ystyriaeth bennaf i fi wrth i ni benderfynu peidio â bwrw ymlaen gyda'r cynhyrchiad," meddai.
“Dw i ddim am ddweud llawer mwy achos... 'dyn ni yn gwneud hynny achos dwi ddim eisiau i straeon fel hyn i gael eu hailgodi dro ar ôl tro, wrth feddwl am y dioddefwyr.
“Felly dwi'n credu fod gor-wneud hynny yn rhywbeth sydd ddim yn llesol iddyn nhw, a nhw ddylai fod ar ein meddyliau ni gyd."
Cafodd Foden, cyn-brifathro Ysgol Friars ym Mangor, ei ddedfrydu i 17 mlynedd o garchar yn 2024 am gam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.
Yn 2025, daeth adolygiad annibynnol i’r casgliad fod dros 50 o gyfleoedd wedi eu colli i'w atal rhag ymosod yn rhywiol ar ferched.
Ym mis Awst, wrth gyhoeddi’r bwriad i ddarlledu’r ddrama, dywedodd Comisiynydd Drama a Ffilm S4C ar y pryd, Gwenllïan Gravelle, y byddai'r ddrama yn “stori bwysig ac ysgytwol am sut y llwyddodd dyn mewn safle o rym ac ymddiriedaeth i fradychu’r statws hwnnw dros nifer o flynyddoedd, tra’n gofyn cwestiynau anodd am ddiwylliannau lle mae unigolion yn cael eu gweld fel rhai na ellir eu herio.“
Dywedodd hefyd bod y ddrama wedi’i datblygu “gyda gofal a sensitifrwydd mawr” ac yn “ymdrin â’r pwnc yn gyfrifol”.
Ganol fis Tachwedd, mewn datganiad byr, cyhoeddodd y darlledwr na fyddai’n briodol parhau â’r cynhyrchiad gan ymddiheuro “am y gofid a achoswyd”.
Gwrthod gwneud cyfweliad am y penderfyniad hwnnw wnaeth y darlledwr. Dyw'r sianel 'chwaith heb gadarnhau faint sydd wedi’i wario ar y gyfres, gan ddweud bod hynny yn “sensitif yn fasnachol”.
Mae Newyddion S4C yn deall bod adolygiad mewnol yn cael ei gynnal gan y darlledwr i’r penderfyniad gwreiddiol i gomisiynu’r ddrama. Dyw hi ddim yn glir a fydd casgliadau’r adolygiad hwnnw yn cael eu cyhoeddi.
Roedd nifer wedi beirniadu'r penderfyniad gwreiddiol i gomisiynu'r ddrama, gyda rhai yn dweud ei bod yn rhy fuan wedi'r achos llys, ac yn codi pryderon y gallai hynny achosi poen meddwl pellach i'r dioddefwyr a'r gymuned yn lleol.