Cyfrol newydd 'i roi llais i ferched' sydd wedi dioddef camdriniaeth gan ddynion
Cyfrol newydd 'i roi llais i ferched' sydd wedi dioddef camdriniaeth gan ddynion
Mae dwy ddynes o Ben Llŷn wedi lansio prosiect newydd sy'n creu "gofod diogel" i fenywod rannu eu profiadau o gamdriniaeth gan ddynion yn ddienw, gyda'r nod o sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.
Bydd To You, With Hate yn gasgliad dienw o lythyrau gan fenywod sydd wedi dioddef camdriniaeth, a fydd yn cael ei gyhoeddi gan wasg Atro.
Dywedodd Lois Elenid, 29 oed, un o sylfaenwyr y prosiect, mai'r bwriad oedd symud y ffocws oddi wrth ddynion a rhoi cyfle i fenywod rannu eu straeon.
"Mae 'na lot o bethau yn y cyfryngau ar hyn o bryd ac mae lot o'r sylw yn mynd ar lleisiau a persbectifs y dynion," meddai wrth Newyddion S4C.
"Achos yn aml, dydi o’m yn ddiogel i greu rhywbeth o bersbectif y merched - mae'n anodd i bobl rannu eu hwynebau a'u henwau a'u lleisiau.
"Felly roeddan ni'n meddwl sut mae mynd o gwmpas hynny mewn ffordd bod pobl yn gallu rhannu a trio cael gwared o 'chydig o’r baich mewn ffordd ddiogel.
"Ac oeddan ni'n meddwl bod creu rhywbeth di-enw heb ddangos wyneb yn ffordd o wneud hynna."
Bydd holl elw’r prosiect yn mynd at elusen Cymorth i Ferched Cymru.
'Torcalonnus'
Dywedodd Elin Gruffydd, 30 oed, sylfaenydd arall y prosiect, fod nifer y straeon am drais yn erbyn menywod yn "dorcalonnus".
"Mae'r dynion mwyaf pwerus yn y byd wedi cael eu cyhuddo o drais yn erbyn menywod, ond maen nhw dal yn y swyddi," meddai.
"Mae 'na gymaint o esiamplau oherwydd bod ni yn byw mewn cymdeithas sydd am ryw reswm yn blaenoriaethu gwarchod y dynion a peidio rhoi'r ffocws ar amddiffyn y merched, a 'dan ni’n cario lot o euogrwydd er bod 'na ddim bai arna' ni.
"Mae’n rhaid iddyn ni wrando ar y merched, neu does na’m byd yn mynd i newid."
Mae o leiaf un ym mhob 12 menyw yn profi trais gan ddynion yn flynyddol yn ôl Llywodraeth Cymru, ac mae nifer y digwyddiadau a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru wedi codi 37% rhwng 2018 a 2023.
Yn ôl Lois ac Elin, mae angen gwneud mwy i addysgu pobl am gydsyniad a'r gwahanol fathau o drais, gan ddechrau yn llawer cynharach yn y system addysg.
Mae'r cynnydd yn y diddordeb yn y manosffer yn peri pryder, meddai Elin, gyda'r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan yn hynny.
"Mae angen bod consent a be' ydi gwahanol fathau o drais a sut i adnabod o'n cael ei ddysgu," meddai.
"Dydi o ddim digon da o flwyddyn 10 ymlaen, mae angen gwneud hynny yn gynt."
'Tyfu fyny yn ddiogel'
Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru fod "pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu cael tyfu i fyny yn ddiogel, yn iach ac yn rhydd rhag camdriniaeth".
"Drwy ddull system gyfan sy'n canolbwyntio ar atal, rydym yn gweithio i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan roi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar blant a phobl ifanc i feithrin perthnasoedd iach a pharchus," meddai llefarydd.
Ychwanegodd: "Mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn rhan orfodol o’r Cwricwlwm i Gymru ac yn rhoi cyfleoedd sy'n briodol i oedran dysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o berthnasoedd iach, parch, cydsyniad a diogelwch personol.
"Mae atal camdriniaeth ac ymddygiadau niweidiol cyn iddynt ddigwydd yn ganolog i'n dull o weithredu.
"Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn cymorth sy'n rhoi dioddefwyr a goroeswyr yn gyntaf, gan weithio gydag ysgolion, colegau a phartneriaid ledled Cymru i helpu plant a phobl ifanc i adnabod ymddygiadau treisgar, herio agweddau niweidiol a meithrin perthnasoedd cadarnhaol a pharchus."
Dywedodd Lois Elenid fod diffyg addysg yn gallu effeithio ar y sawl sy'n profi trais a'r sawl sy'n ei gyflawni.
"Yn aml dydy pobl efallai ddim yn gwybod bod nhw wedi dioddef trais," meddai.
"A dydi rhai pobl ddim yn gwybod eu bod nhw'n bod yn dreisgar yn y lle cyntaf, a be' sy'n gyfreithiol a be' sydd ddim."
Rhannodd ei phrofiad o gwblhau cwrs cydsyniad gorfodol cyn dechrau ar ei hastudiaethau ôl-raddedig y llynedd, gan ddweud ei fod wedi "agor ei llygaid" i rai mathau o gamdriniaeth nad oedd hi'n ymwybodol ohonynt.
Un enghraifft oedd anfon lluniau rhywiol digroeso, rhywbeth y dywedodd nad oedd hi'n gwybod y gallai gael ei ystyried yn drosedd.
"Do'n i ddim yn gwybod bod gyrru llun i rhywun heb ganiatâd rŵan yn cael ei ystyried fel digital flashing," meddai Lois.
"Mae faint o ferched 'dan ni’n nabod sy’n derbyn lluniau heb consent… mi fysa' ni yma trwy'r dydd os fysa' ni’n enwi nhw i gyd."
Mae hi'n credu y gallai addysg debyg mewn ysgolion a phrifysgolion helpu pobl i adnabod ymddygiad annerbyniol, a lleihau'r risg y bydd trais yn digwydd.
Mae'r ddwy hefyd yn pwysleisio bod gallu rhoi enw i brofiad o drais yn gallu bod yn gam pwysig i'r sawl sydd wedi'i brofi.
Sut mae cyfrannu?
Mae Lois ac Elin eisoes wedi lansio galwad agored am gyfraniadau ar eu cyfrif Instagram.
Bydd modd i'r rhai sy'n dymuno rhannu eu profiadau wneud hynny'n ddienw drwy gyfrannu at y casgliad, gyda'r sylfaenwyr yn annog pobl i ysgrifennu yn Gymraeg neu Saesneg.
Dywedodd Elin fod y dewis o iaith yn rhan bwysig o'r prosiect, gan y gall iaith gael effaith sylweddol ar y ffordd y mae pobl yn mynegi profiadau o drais.
"Mae iaith yn rhywbeth mor enfawr o fewn trais," meddai.
"Nid yw'n digwydd yn eich iaith gyntaf chi, neu weithiau mae pobl eisiau rhannu am y profiad yn eu hail iaith er mwyn pellhau'r profiad."
Ychwanegodd: "Felly mae'r opsiwn yna i wneud yn Gymraeg neu Saesneg, dwi'n meddwl, yn hollbwysig."
Er bod y pwnc yn un dyrys, mae'r ddwy yn dweud eu bod yn gobeithio y bydd y prosiect yn helpu i dorri'r distawrwydd sy'n aml yn amgylchynu profiadau menywod o drais a chamdriniaeth, gan greu ymdeimlad o undod a chefnogaeth.
"Y nod ydi creu cysylltiad, creu cymuned, codi ymwybyddiaeth," meddai Lois. "Ond hefyd creu 'chydig bach o agency."
