Rhwystro gwerthiant baco anghyfreithlon yn 'allweddol' wrth atal plant rhag ysmygu
Rhwystro gwerthiant baco anghyfreithlon yn 'allweddol' wrth atal plant rhag ysmygu
Mae timau safonau masnach yng Nghymru wedi meddiannu miliwn o sigaréts anghyfreithlon ers dechrau’r flwyddyn gan rwystro cannoedd ar filoedd o bunnoedd rhag cyrraedd gangiau troseddol.
Yn ôl swyddogion mae rhwystro gwerthiant baco anghyfreithlon yn allweddol wrth atal plant rhag ysmygu.
"Mae plant yn gallu cerdded i mewn i siop, deud y gair iawn, prynu nhw, a does 'na neb yn edrych ar eu hoedran nhw, does 'na neb yn meddwl gallai hyn roi ryw fath o ddiffyg i'w iechyd nhw," Alison Farrar o Safonau Masnach Cymru wrth raglen Newyddion S4C.
Mae 8% o blant 15 ac 16 oed yn ysmygu - dyw’r ffigwr ddim wedi gostwng ers wyth mlynedd.
"Mae tua 6,000 o blant yn trio ac yn cychwyn ysmygu bob blwyddyn yng Nghrymu, ag yn anffodus bydd tri allan o bedwar o rheini yn cario mlaen ysmygu twy eu bywydau i gyd."
Mae swyddogion wedi cynnal cyrchoedd mewn deuddeg ardal hyd yn hyn ac mae rhagor ar y gweill.
Maen nhw’n apelio ar unrhywun sydd â gwybodaeth am werthu baco anghyfreithlon i gysylltu â nhw.
"Os fyswch chi yn digwydd mynd i mewn i siop ac yn clywed rhywun, neu yn digwydd sylwi bo rhywun yn prynu tybaco neu sigaréts sy'n rhatach, bo 'na ryw fath o guddiad neu rywbeth ein neges ni fysa i reportio fo.
"Os 'da chi ddim yn teimlo bydda chi'n hapus i roi eich manylion mi fedrwch chi reportio hyn yn ddienw trwy 'Crime Stoppers' ac mae'r wybodaeth yma yn dal yn mynd i gyrraedd safonau masnach, a 'da ni'n dal yn mynd i fedru neud rhywbeth am danna fo."