Ffliw adar: Gorchymyn i gadw ieir ac adar eraill dan do achos 'bygythiad sylweddol'
Bydd yn rhaid i bobl sy’n cadw dofednod ac adar eu cadw o dan do o’r wythnos nesaf ymlaen wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno mesurau i fynd i’r afael â “bygythiad sylweddol” ffliw adar.
Cyhoeddodd y llywodraeth ddydd Iau bod y gorchymyn newydd yn dod i rym am 12:00 dydd Llun 23 Tachwedd.
O dan y rheolau, bydd rhaid i unrhyw un sy’n cadw mwy na 50 o adar o unrhyw rywogaeth eu cadw dan do.
Fe fydd yn rhaid i’r rheiny sy’n cadw llai na 50 aderyn hefyd ddilyn y rheol os yw eu cynhyrchion neu eu hwyau yn cael eu gwerthu neu eu rhoi i ffwrdd.
“Mae Cymru'n wynebu bygythiad sylweddol oherwydd nifer cynyddol o achosion o'r ffliw adar mewn adar cadw ac adar gwyllt ledled Prydain Fawr,” meddai'r llywodraeth mewn datganiad.
Ychwanegodd bod yr haint “yn destun pryder difrifol, nid yn unig o ran iechyd a lles anifeiliaid, ond hefyd o safbwynt cynhyrchu bwyd ac iechyd pobl.”
Fe fydd y mesurau yn cael ychwanegu at reoliadau eraill Parth Atal Ffliw Adar Cymru gafodd ei gyflwyno ddydd Llun.
“Rydym yn cadw mesurau atal ffliw adar dan adolygiad gweithredol,” meddai Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine.
“Ers cyflwyno'r Parth Atal Ffliw Adar ddydd Llun, mae'r risg o glefyd wedi cynyddu ymhellach. O'r herwydd, mae'r mesur rhagofalus ychwanegol hwn yn cael ei roi ar waith i liniaru'r risgiau uwch hyn.
“Mae cadw adar o dan do yn orfodol, yn ogystal â hylendid llym a bioddiogelwch yr haid, bellach yn angenrheidiol i helpu i ddiogelu iechyd a lles adar a bywoliaeth ceidwaid dofednod ledled Cymru.”
Ychwanegodd: “Mae'n hanfodol gweithredu nawr i amddiffyn eich adar rhag Ffliw Adar, ac rwy'n parhau'n ddiolchgar i'r holl geidwaid am eu cydweithrediad parhaus i ddiogelu iechyd a lles adar.”
