Enwi carfan Cymru fydd yn herio Norwy yng ngemau ail-gyfle Cwpan y Byd
Mae chwe chwaraewr yn dychwelyd i garfan pêl-droed merched Cymru ar gyfer y ddwy gêm yn erbyn Norwy, wrth i'r tîm geisio sicrhau lle yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf erioed.
Mae'r rheolwr Rhian Wilkinson wedi enwi ei charfan ar gyfer rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd 2027, gyda dim ond dwy gêm yn gwahanu Cymru oddi wrth y posibilrwydd o gyrraedd y gystadleuaeth ym Mrasil yr haf nesaf.
Mae Hayley Ladd, Olivia Clark, Ceri Holland, Rhiannon Roberts ac Ella Powell yn dychwelyd i'r garfan ar ôl colli'r gemau diwethaf oherwydd anafiadau.
Mae Gwen Zimmerman hefyd yn dychwelyd i'r garfan.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2123371484135727356
Bydd Cymru yn croesawu Norwy i Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Mawrth 1 Rhagfyr, gyda'r gic gyntaf am 19:15.
Fe fydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Stadiwm Ullevaal yn Oslo ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr, gyda'r gic gyntaf am 16:00.
Fe wnaeth Cymru sicrhau eu lle yn rownd derfynol y gemau ail gyfle ar ôl curo Albania o 4-0 dros ddau gymal ym mis Hydref.
Enillodd tîm Rhian Wilkinson y cymal cyntaf yn Albania o 1-0, cyn ennill yr ail gymal o 3-0 ym Mharc y Scarlets, Llanelli.
Fe gyrhaeddodd Norwy'r rownd derfynol ar ôl curo Rwmania o 8-0 dros ddau gymal.
Mae Norwy yn cael eu hyfforddi gan Gemma Grainger, cyn-reolwr Cymru, cyn i Wilkinson gael ei phenodi yn 2024.
Er bod Cymru ddwy gêm yn unig oddi wrth fuddugoliaeth yn rownd derfynol y gemau ail gyfle Ewropeaidd, nid yw curo Norwy o reidrwydd yn gwarantu lle yng Nghwpan y Byd.
Mae wyth gêm ail gyfle yn cael eu cynnal dros ddau gymal, gyda saith o'r wyth tîm buddugol yn sicrhau lle yn awtomatig yn y gystadleuaeth.
Bydd y saith tîm sydd yn y safleoedd uchaf yn nhrefn safleoedd gyffredinol gemau rhagbrofol Ewrop yn cymhwyso'n awtomatig.
Ond bydd yn rhaid i'r tîm sydd yn y safle isaf gystadlu mewn gemau ail gyfle rhyngwladol ym mis Chwefror 2027, er mwyn ceisio sicrhau'r lle olaf.
Mae Cymru yn yr 20fed safle yn nhrefn safleoedd gyffredinol y gemau rhagbrofol, tra bod Norwy yn chweched.
Mae hynny'n golygu y bydd canlyniadau'r gemau ail gyfle eraill hefyd yn bwysig wrth benderfynu a fydd Cymru'n sicrhau lle yn awtomatig, pe baen nhw'n curo Norwy.