Gwaith gan Van Gogh yn torri record newydd mewn arwerthiant
Mae darn o gelf gan Vincent van Gogh wedi gosod record newydd ar ôl cael ei werthu am 190.4 miliwn o ddoleri (£145 miliwn) mewn arwerthiant yn Sotheby’s, Efrog Newydd.
Hwn oedd y tro cyntaf i'r darlun ymddangos ar y farchnad, ac fe wnaeth 'Chataigniers en fleurs' (Coed Castanwydd yn Blodeuo) gyrraedd y pris uchaf erioed ar gyfer gwaith gan Van Gogh mewn arwerthiant, a’r ail bris uchaf ar gyfer unrhyw waith celf a werthwyd yn Sotheby’s.
'Portread o Elisabeth Lederer' gan Gustav Klimt, a werthwyd flwyddyn yn ôl yn Sotheby’s am 236.4 miliwn (£180 miliwn) yw'r darn o waith mwyaf gwerthfawr erioed i gael ei werthu gan y cwmni hwnnw.
Fe baentiodd Vincent van Gogh y tirlun 'Chataigniers en fleurs' yn ystod dau fis olaf ei fywyd, yn fuan ar ôl iddo gael ei ryddhau o ysbyty seiciatrig Saint-Rémy.
Roedd wedi symud i'r pentref hardd sydd i’r gogledd-orllewin o Baris.
Y son oedd fod Van Gogh wedi profi ton gref o obaith ac egni yno, gyda'r egni yma i'w weld ym mwrlwm ei ddarluniau o'r cyfnod hwnnw.
Bu bron i arwerthiant y darlun gael ei atal gan ddisgynyddion y cyhoeddwr Almaenig Samuel Fischer, oedd wedi dadlau fod y teulu wedi ei werthu ym 1936 o dan bwysau gan y Natsïaid, pan gawsant eu gorfodi i ffoi o Berlin.
Oriau'n unig cyn yr arwerthiant, cyhoeddodd Sotheby’s fod cytundeb wedi’i gyrraedd rhwng etifeddion Fischer a theulu Blaquier-Arrieta - y teulu a gafodd y darlun olew ym 1975 ac oedd yn ei werthu.
Mewn datganiad, dywedodd Sotheby’s: “Gan gydnabod hanes cymhleth y paentiad yn ystod cyfnod y Natsïaid, a’r dioddefaint a brofwyd gan deulu Fischer yn ystod yr Holocost, mae’r ddau deulu wedi dod i ddatrysiad sy’n foddhaol i’r ddwy ochr, a bydd y gwaith yn cael ei werthu yn unol â’u cytundeb.”
Llun: Sotheby’s