Galwad i wella cyfleusterau toiled i yrwyr trenau

Gorsaf Drenau (TFW)

Mae undeb sy'n cynrychioli gyrwyr trenau yng Nghymru wedi rhybuddio bod ei amynedd 'yn brin' oherwydd diffyg cyfleusterau toiled addas ar gyfer ei aelodau.

Mae undeb Aslef, sy'n cynrychioli gyrwyr sy'n gweithio i Trafnidiaeth Cymru yn ogystal â chwmnïau rheilffyrdd eraill ledled Prydain, yn galw am wella'r cyfleusterau sydd ar gael i yrwyr yn ystod eu gwaith.

Yn ôl yr undeb, mae rhai cwmnïau rheilffyrdd yn parhau i fethu â sicrhau bod gyrwyr yn gallu defnyddio toiledau glân a diogel.

Maen nhw'n dweud bod y diffyg cyfleusterau yn gallu cael effaith negyddol ar iechyd, diogelwch a lles gyrwyr trenau.

Mae Aslef yn galw ar gwmnïau sy'n gweithredu trenau teithwyr a nwyddau i sicrhau bod pob gyrrwr yn gallu defnyddio toiled diogel, glân a hygyrch o fewn pedair awr i ddechrau ei shifft.

Mae hynny'n golygu y dylai pob gyrrwr gael cyfle i ddefnyddio toiled addas yn ystod pedair awr gyntaf ei ddiwrnod gwaith.

Mae'r undeb hefyd eisiau i'r cwmnïau ymrwymo i siarter llesiant er mwyn gwella'r cyfleusterau sydd ar gael i'w staff.

Mewn ymateb, dywedodd Trafnidiaeth Cymru ei fod wedi buddsoddi'n helaeth mewn cyfleusterau mewn gorsafoedd a depos ar draws ei rwydwaith, a'i fod yn cydweithio ag undebau llafur ar y mater.

Roedd adroddiad gan Aslef wedi tynnu sylw at gyflwr gwael y cyfleusterau oedd ar gael i yrwyr trenau, gan rybuddio am yr effaith ar eu hiechyd a'u lles.

Yn ôl Aslef, mae pedwar mis wedi mynd heibio ers y dyddiad cau a gafodd ei osod gan y rheoleiddiwr rheilffyrdd i roi'r argymhellion ar waith, ond nid yw'r cwmnïau wedi gwneud hynny eto.

'Annerbyniol'

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Aslef, Dave Calfe: "Mae ein hamynedd yn brin.

"Mae dwy flynedd ers i'n hadroddiad ddatgelu cyflwr syfrdanol y cyfleusterau toiled sydd ar gael i yrwyr trenau, a phedwar mis ers y dyddiad cau a gafodd ei bennu gan y rheoleiddiwr i weithredu ein hargymhellion.

"Mae'n rhaid i gwmnïau trenau teithwyr a nwyddau weithredu ar frys i sicrhau bod pob gyrrwr yn gallu defnyddio toiled o fewn pedair awr i ddechrau ei shifft."

Image
Dave Calfe
Ysgrifennydd Cyffredinol Aslef, Dave Calfe

Ysgrifennydd Cyffredinol Aslef, Dave Calfe

"Mae'r amodau y mae ein haelodau'n eu hwynebu o ddydd i ddydd yn annerbyniol ac mae'n rhaid iddyn nhw newid.

"Dydyn ni ddim yn gofyn am lawer. Rydyn ni eisiau i'r diwydiant sicrhau bod cyfleusterau addas ar gael, a bod gyrwyr trenau yn gallu eu defnyddio pan fo angen.

"Mae'n anhygoel ein bod ni hyd yn oed yn gorfod dadlau dros hyn yn 2026, ond byddwn ni'n parhau i wneud hynny nes bod pob gyrrwr yn cael ei drin ag urddas."

Y sefyllfa yng Nghymru

Mae nifer o gwmnïau trenau yn gweithredu gwasanaethau yng Nghymru, gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru, Great Western Railway, Avanti West Coast a CrossCountry.

Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru: "Rydym yn cydnabod pwysigrwydd darparu cyfleusterau toiled digonol i yrwyr a chriwiau trenau, ac mae ein cydweithwyr wedi bod yn rhan o'r gwaith wrth i ni fuddsoddi'n helaeth mewn cyfleusterau mewn gorsafoedd a depos ar draws ein rhwydwaith.

"Rydym wedi ymrwymo i gydweithio'n agos ag undebau llafur ar y mater hwn, fel rhan o'n cytundebau partneriaeth gymdeithasol."

Nid oedd Trafnidiaeth Cymru wedi cadarnhau'n benodol a yw pob gyrrwr yn gallu defnyddio toiled addas o fewn pedair awr i ddechrau ei shifft.

Mae Newyddion S4C hefyd wedi cysylltu â Great Western Railway, Avanti West Coast a CrossCountry i ofyn a ydynt yn bodloni'r gofynion, ac a oes pryderon wedi'u codi gan eu gyrwyr ynghylch mynediad at doiledau.

Mae Newyddion S4C hefyd wedi gofyn am ymateb i alwadau Aslef am wella'r cyfleusterau sydd ar gael i yrwyr trenau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.