Dolgellau: Dyn wedi ei gyhuddo yn dilyn achos o anafu difrifol

Bron Heulog
Mae dyn wedi’i gyhuddo yn dilyn achos o anafu difrifol yn Nolgellau ddydd Sul.
 
Aeth y gwasanaethau brys i gyfeiriad ar res bythynnod Fron Heulog ychydig cyn 8pm yn dilyn adroddiad fod dyn wedi cael anafiadau difrifol.
 
Daeth yr heddlu o hyd i ddyn 58 oed ger canol y dref, ac fe gafodd ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
 
Ers hynny, mae Gary Williams, o Love Lane, Dolgellau, wedi’i gyhuddo o achosi anaf bwriadol a bod â chyllell yn ei feddiant mewn lle cyhoeddus.

Mae wedi’i gadw yn y ddalfa i ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon.
 
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai eu cynorthwyo gyda’u hymchwiliadau i gysylltu â nhw drwy eu gwefan, neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 26000936960. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.