Arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn cymryd yr awenau

David Chadwick

Bydd unig Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn cymryd yr awenau fel arweinydd y blaid yng Nghymru ddydd Llun.

Bydd Aelod Seneddol Brycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe, David Chadwick, yn amlinellu ei weledigaeth mewn araith yng Nghaerdydd. 

Daw hyn ar ôl i Jane Dodds, sy'n aelod o Sendd Cymru gyhoeddi y byddai'n ildio'r awenau ar ôl bron i naw mlynedd yn y rôl.

Mae Mr Chadwick yn 35 oed ac fe gafodd ei ethol i Senedd San Steffan yn 2024.

Fe yw llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Gymru yn San Steffan.

Mae’n wynebu talcen caled ar ôl i’w blaid fethu ag ennill mwy nag un sedd yng Nghymru yn etholiadau diwethaf Senedd Cymru a Senedd San Steffan.

Wrth gyhoeddi ddiwedd mis Hydref ei fod am gymryd yr awenau, dywedodd fod Cymru yn “wlad sydd â photensial aruthrol”.

“Mae gennym bobl ifanc dalentog, busnesau arloesol a chymunedau sydd â’r uchelgais i gyflawni pethau mawr,” meddai.

“Ond yn rhy aml, nid yw’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl yn cyfateb i’r uchelgais hwnnw.

“Rwyf am weld Cymru lle mae gwaith caled yn cael ei wobrwyo, lle mae gan fusnesau’r hyder i fuddsoddi a thyfu, a lle gall pobl ifanc adeiladu bywydau llwyddiannus heb deimlo bod yn rhaid iddyn nhw adael Cymru i lwyddo.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.