Galw am atal bargyfreithwyr rhag defnyddio camsyniadau am dreisio mewn llysoedd
Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder wedi galw am gyflwyno rheolau newydd i atal cyfreithwyr rhag defnyddio camsyniadau cyffredin am dreisio wrth amddiffyn eu cleientiaid.
Yn ôl papur newydd The Times, mae Alex Norris wedi ysgrifennu at y corff sy’n goruchwylio bargyfreithwyr yn dilyn achos llys Russell Brand.
Yn ei lythyr at Fwrdd Safonau’r Bar (BSB) fe rhybuddiodd Mr Norris ei bod yn “annerbyniol” i’r proffesiwn “barhau i ledaenu mythau” am ddioddefwyr trais rhywiol yn y llys.
Dywedodd y gallai bargyfreithwyr sy’n torri’r rheolau wynebu camau disgyblu, gan gynnwys cael eu gwahardd rhag gweithio yn y proffesiwn.
Yn ystod achos llys Brand, 51 oed, clywodd y rheithgor ddadleuon na ddylid credu’r menywod oedd yn ei gyhuddo am nad oedden nhw wedi sgrechian, cicio na cheisio dianc.
Yn ei araith gloi i’r rheithgor, dadl bargyfreithiwr yr amddiffyniad, Ian Winter CB, oedd nad oedd y menywod oedd yn cyhuddo Brand wedi “gwrthsefyll na sgrechian na hyd yn oed geisio gadael”.
Fe wrthododd y rheithgor y dadleuon hynny. Cafodd Brand ei ganfod yn euog o ymosodiadau ar bedair o’r chwe menyw a roddodd dystiolaeth yn ei erbyn.
Mae bellach yn bwrw dedfryd o 10 mlynedd a hanner o garchar am un drosedd o dreisio a thri ymosodiad rhywiol.
Ysgrifennodd Mr Norris yn ei lythyr at y BSB: “Rhaid i’r bwrdd anfon neges gref at y proffesiwn am y niwed sy’n deillio o fythau am dreisio, a bod parhau i ledaenu mythau o’r fath mewn llys yn annerbyniol, yn union fel y maen nhw’n annerbyniol yn ein cymdeithas yn gyffredinol.”
Dywedodd llefarydd ar ran y BSB wrth The Times ei fod yn cytuno bod yn rhaid penderfynu ar achosion o dreisio ac ymosodiadau rhywiol “ar sail y dystiolaeth ac nid rhagfarn”.
Ychwanegodd: “Dyna un o’r rhesymau pam y gwnaethon ni sefydlu grŵp o arbenigwyr i gynghori ar gryfhau safonau i fargyfreithwyr sy’n gweithio ar achosion o dreisio a throseddau rhywiol difrifol.
“Byddwn yn parhau i weithio ar frys gyda’r llywodraeth i fynd i’r afael â’r materion sydd wedi’u codi.”
