Portmeirion: Diwedd cyfnod i un aelod o staff wrth i'r pentref ddathlu canmlwyddiant
Gyda Phortmeirion yn dathlu canmlwyddiant eleni, mae hi hefyd yn ddiwedd cyfnod yno wrth i un aelod o staff ymddeol ar ôl bron i 50 mlynedd yn gweithio yn y pentref Eidalaidd.
Fe fydd Martin Couture, y Prif Beintiwr, yn ymddeol eleni ar ôl bron i hanner canrif yn helpu i gynnal ymddangosiad a chymeriad unigryw adeiladau Portmeirion.
Fe wnaeth y pensaer Syr Clough Williams-Ellis brynu stad Aber Iâ ym 1925.
Bydd cyfres newydd ar S4C yn cwrdd â rhai o'r 250 o bobl sy’n gweithio ar y safle.
Bydd y gyfres yn rhoi blas o'r gwaith sy’n digwydd o ddydd i ddydd i gynnal yr adeiladau hanesyddol, gofalu am y gerddi a sicrhau bod y gwesty a’r gwasanaethau eraill yn rhedeg yn esmwyth.
Mae nifer o staff yn rhannu eu straeon o weithio yn y pentref hefyd, gan gynnwys Gwynedd, Pennaeth Cynnal a Chadw; Martin, y Prif Beintiwr; Mark, Prif Gogydd y gwesty; Sue a Carolyn o’r tîm Cadw Tŷ; ac Andrew, sy’n gweithio yn y golchdy.
'Mynd ati o ddifri i gynnal y lle'
Dywedodd Martin Couture, y Prif Beintiwr fod Syr Clough Williams-Ellis yn awyddus i sicrhau nad oedd yr adeiladau’n edrych yn rhy berffaith nac yn artiffisial.
"Base Syr Clough ddim isio i’r lle edrych fel gwlad Disney. O’dd o isho fo wedi cael tywydd. Dyna pam dan ni’n rhoi gwahanol shades ar yr adeiladau, i neud iddyn nhw edrych yn hen yn syth er bo' nhw’n lân."
Ychwanegodd Robin Llywelyn, Rheolwr Gyfarwyddwr Portmeirion ac ŵyr i Syr Clough Williams-Ellis: "Gofalwyr ydan ni. Gofalu am y lle am gyfnod a'i adael mor daclus ag y medrwn ni i bwy bynnag ddaw yn ein sgìl ni eto.
"'Dan ni di cyrraedd man erbyn heddiw lle ma’r pentref mewn lle dipyn gwell nag oedd o 100 mlynedd yn ôl. Mi fase fy nhaid wrth ei fodd yn gweld bod ‘na bobl wedi mynd ati o ddifri i gynnal y lle, ond heb newid dim byd yn weledol."
Bydd Portmeirion yn cael ei darlledu ar S4C ac ar gael i’w ffrydio ar S4C Clic a BBC iPlayer o 16 Tachwedd.
