Cymru'n curo Seland Newydd am y tro cyntaf mewn 73 o flynyddoedd
Wythnos ers y fuddugoliaeth yn erbyn Japan, y Crysau Duon oedd yr her b'nawn Sadwrn i Gymru yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, ac fe gafwyd gornest - a buddugoliaeth - ragorol.
Fe wnaeth Cymru bopeth i rwystro Seland Newydd rhag gosod eu stamp ar yr ornest - ac roedd y chwarae'n gyflym, yn gystadleuol ac yn gyffrous.
Roedd hwn, heb os, yn un o berfformiadau gorau Cymru ers nifer o flynyddoedd ac roedd yn achlysur hanesyddol i'r gamp.
A gyda'r holl ddrama oddi ar y cae dros y misoedd diwethaf, roedd hwn yn berfformiad y gallai Steve Tandy fod yn hynod falch ohono, ac ymfalchïo yn ymdrechion ei chwaraewyr.
Hen hanes
Nid oedd Cymru wedi curo Seland Newydd ers 73 o flynyddoedd cyn y gêm yma ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd - a dim ond y Cymro mwyaf gobeithiol fyddai wedi rhagweld y byddai hynny'n newid ar ddechrau'r prynhawn.
Roedd Adam Beard yn dychwelyd i dîm Cymru ar gyfer y gêm, gyda Taine Basham yn dechrau yn safle Rhif 8. Dyma oedd ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ers Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2024.
Roedd Seland Newydd wedi rhybuddio cyn y gêm mai eu bwriad oedd i ffrwyno bygythiad Jac Morgan, gan ddweud fod ei gyfraniad i Gymru'n un hanfodol.
Roedd un newid i linell gefn Cymru, gyda Gabriel Hamer-Webb yn dod i mewn ar yr asgell ar gyfer ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd.
Fe gafwyd perfformiad o'r Haka enwog o dan y llif-oleuadau cyn y chwiban gyntaf - a chwaraewyr Cymru'n syllu o bell ar y bygythiad o'u blaen.
Cychwyn cyffrous Cymru
Fe gafodd Cymru ddechrau anghygoel, gyda chais gan Tomos Williams wedi llai na dau funud o chwarae.
Cic a chwrs ar yr asgell gan Louis Rees-Zammit gyda Williams yn ei chipio am y cais - a throsiad Costelow yn rhoi'r faintais o saith pwynt i Gymru.
Ychydig funudau'n unig yn ddiweddarach, fe ddaeth mwy o newyddion rhagorol i Gymru - gyda chyflymder yr ailgylchu'n talu ar ei ganfed.
Y bêl yn symud yn sydyn o ddwylo Hamer-Webb i ddwylo Jac Morgan, cyn i'r capten Dewi Lake groesi'r llinell. Trosiad arall gan Costelow yn dyblu'r fantais i 14-0.
Ond wedi'r dechrau syfrdanol, fe darodd Seland Newydd yn ôl yn sydyn - ffug-sgarmes symudol y Crysau Duon yn arwain at Ratima'n llygadu bwlch cyn croesi am y cais - Mo'unga wedyn yn hawlio dau bwynt arall wrth drosi i'r ymwelwyr.
Roedd y gêm yn cael ei chwarae ar gyflymder ffyrnig gyda 15 munud ar y cloc.
Bu ond y dim i Gymru sgorio eto wedi 22 munud - ond Max Llewellyn yn colli ei afael ar y bêl gyda llathen o dir ar ôl i'w groesi.
Munud yn ddiweddarach, daeth cais arall i Gymru - Adam Beard y tro hwn yn croesi am y pum pwynt ar ôl cyfnod da o chwarae. Sam Costelow yn cynyddu'r fantais - a Chymru ar y blaen o 21-7.
Sititi'n bachu cyfle
Gyda hanner awr wedi mynd, fe ddangosodd Seland Newydd eu doniau - y bachwr Wallace Sititi'n bachu'r bêl a'r cyfle i ymestyn rhwng bwlch yn amddiffyn Cymru i sicrhau cais arall i'r ymwelwyr. Mo'unga wedyn yn trosi i gwtogi mantais Cymru i saith pwynt unwaith eto. 21-14.
Fe gafwyd diweddglo dramatig i hanner cyntaf rhyfeddol o rygbi - Cymru'n wreiddiol yn curo'r lein cyn colli'r meddiant, a'r Crysau Duon yn cadw rheolaeth ar y bêl am dri munud cyn sgorio'r cais - Fineanganofo y tro hwn yn hawlio'r pwyntiau. Fe wnaeth Mo'unga drosi eto i sicrhau bod y sgôr yn gyfartal ar yr hanner - 21-21 wedi 40 munud o gyffro.
Pwynt bonws - a phedwar cais
Funudau wedi dechrau'r ail hanner - fe sgoriodd Cymru'r pedwerydd cais yn y gêm i'w rhoi yn ôl ar y blaen, wedi chwarae amyneddgar.
Basham a Botham yn chwarae eu rhan yn yr ymosodiad, cyn i Tomos Williams daflu'r bêl i'r asgell chwith ac i ddwylo Eddie James cyn iddo groesi'r llinell gais.
Costelow wedyn yn trosi - gan roi Cymru ar y blaen unwaith eto - 28-21.
Ychydig funudau wedyn, gyda 48 munud ar y cloc, fe wnaeth Cymru greu hanes gan sgorio pum cais yn erbyn y Crysau Duon am y tro cyntaf erioed - cais i Rees-Zammit y tro hwn a chais haeddianol ar ôl perfformiad disglair.
Dau bwynt arall i Costelow a Chymru 35-21 ar y blaen.
Am gêm - a Chymru'r un mor egnĩol a'r perfformiad yn yr hanner cyntaf.
Bylchau'n ymddangos
Tro Seland Newydd oedd hi i daro'n ôl wedyn ar ôl 53 o funudau - cais arall a Peter Lakai yn hawlio'r pwyntiau ar ôl gweld bwlch yn amddiffyn Cymru oedd wedi bod yn arwrol am gyfnod. Cywirdeb Richie Mo'unga unwaith eto rhwng y pyst yn cau mantais Cymru i 35-28.
Roedd Seland Newydd yn tyfu yn eu hyder, gan yrru ac ailgylchu'r bêl dro ar ôl tro wedi awr o chwarae.
Roedd ymateb amddiffynnol Cymru'n arwrol gyda'r ymwelwyr yn ymosod dro ar ôl tro.
Roedd awch y Cymry i sefyll yn y bwlch, gan atal Seland Newydd rhag croesi'r llinell, yn anhygoel ar adegau.
Ond roedd angen meddiant gyda 10 munud yn weddill.
Ton ddu, a wal goch
Pwyso a phwyso yn un don oedd hanes yr ymwelwyr am y munudau nesaf - a Chymru'n dal y pwysau cyn cael ychydig o ryddhad gyda sgrym ar ôl 75 munud.
Roedd coesau blinedig ar y cae bellach a Chymru o fewn cyrraedd canlyniad bythgofiadwy.
Llwyddodd y Cymry i amddiffyn hyd yr eithaf - gan sicrhau buddugoliaeth gwbl wych fydd yn aros yn y cof am flynyddoedd i ddod.
Lluniau: Asiantaeth Luniau Huw Evans