Heddlu'r Met yn lansio ymchwiliad i 'honiadau o droseddau rhyw difrifol' yn erbyn David Walliams

Llun: PA
David Walliams

Mae Heddlu'r Met wedi lansio ymchwiliad wedi i'r llu dderbyn "nifer o honiadau o droseddau rhyw difrifol hanesyddol" yn erbyn David Walliams. 

Dywedodd Heddlu'r Met ddydd Gwener eu bod wedi derbyn nifer o honiadau dros y dyddiau diwethaf am yr awdur, a bod y bobl sydd wedi cysylltu â'r llu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol. 

Ychwanegodd yr heddlu bod yr honiadau yn rhai gwahanol i'r rhai a gafodd eu hadrodd gan ITN a'r Guardian yn gynharach yr wythnos hon.

Cafodd Mr Walliams ei enwi yn gynharach yn yr wythnos fel y dyn oedd wedi methu â sicrhau gwaharddeb gan yr Uchel Lys i atal adroddiadau am honiadau yn ei erbyn.

Roedd Walliams, 55 oed, wedi cymeryd camau yn erbyn ITN a Guardian News and Media, cyhoeddwr The Guardian, i geisio atal cyhoeddi gwybodaeth amdano, ond fe fethodd ei ymdrechion cyfreithol.

Cafodd rhaglen ddogfen ITV ei darlledu ddydd Mawrth am Mr Walliams oedd yn cynnwys honiadau o gamymddwyn rhywiol a gweithgaredd troseddol posib yn honedig.

Dywedodd cyfreithwyr ITN a'r Guardian wrth yr Uchel Lys yn Llundain yn flaenorol fod yr honiadau'n ymwneud â "chamddefnyddio pŵer a statws" Walliams i gysylltu â menywod ifanc a cheisio cymryd rhan mewn "gweithgareddau rhywiol amhriodol ac ecsbloetiol".

Mae Mr Walliams wedi gwadu'r holl honiadau yn y rhaglen ddogfen ac yng nghyhoeddiadau The Guardian.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.