Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru yn gobeithio am fuddugoliaeth arall yn erbyn Norwy
Fe fydd Cymru yn yn gobeithio am fuddugoliaeth arall yn erbyn Norwy ddydd Sadwrn yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Mae sawl chwaraewr nad oedd ar gael ar gyfer y pedair gêm ar draws Medi a Hydref yn dychwelyd i’r garfan, gan gynnwys Harry Wilson, Joe Rodon a Karl Darlow.
Fe wnaeth goliau gan Dan James a Neco Williams sicrhau triphwynt mewn buddugoliaeth 2-1 yn erbyn Norwy yng Nghaerdydd ym mis Hydref - buddugoliaeth gyntaf erioed Cymru yng Nghynghrair A.
Bydd y gêm ddydd Sadwrn oddi cartref, gyda'r gic gyntaf am 17:00 yn Oslo.
Mae gan Gymru a Norwy yr un nifer o bwyntiau hyd yma, sef tri phwynt, ond Cymru sy'n uwch yn y tabl a hynny ar sail eu record yn erbyn ei gilydd.
Mae'r ddau dîm hefyd yn brwydro i osgoi disgyn o haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd.
Pot Un
Os yw Cymru yn osgoi gorffen ar waelod y grŵp, yna fe fyddan nhw'n sicrhau eu lle ym Mhot Un ar gyfer gosod grwpiau Euro 2028.
Byddai hynny yn golygu osgoi rhai o dimau mwyaf Ewrop yn eu gemau rhagbrofol.
Mae rheolwr Cymru Craig Bellamy wedi dweud fod ei dîm yn ymwybodol o awydd Norwy i daro yn ôl wedi'r golled yng Nghaerdydd fis diwethaf.
Pe bai Cymru yn curo Norwy ddydd Sadwrn, fe fyddai tîm Bellamy fwy neu lai yn sicr o hawlio'r trydydd safle yn ogystal â'n hwb wrth geisio cyrraedd Euro 2028.
Fe fydd yn rhaid i Gymru geisio rheoli Erling Haaland yn ystod y gêm, sydd wedi sgorio 65 gôl mewn 59 o gemau dros ei wlad.
Dywedodd Craig Bellamy: "Rydych chi'n siarad am geisio delio ag un o chwaraewyr gorau'r byd, ac rydyn ni wedi bod yn gweld hynny ers sawl blwyddyn bellach.
"Mae e'n wahanol i'r hyn y byddai'n rhaid i chi ddelio ag ef fel arfer. Mae ganddo'r proffil o bopeth rydych chi ei eisiau mewn chwaraewr, ac mae hynny'n eithaf prin."