Gyrrwr beic modur mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad â thractor
Mae gyrrwr beic modur mewn cyflwr difrifol ond sefydlog wedi gwrthdrawiad yn Niwgwl, Sir Benfro brynhawn Llun.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng y beic modur a thractor ar ffordd yr A487 tua 17:20, a chafodd y ffordd ei chau tan fore Mawrth.
Cafodd gyrrwr y beic modur ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr a'r gred yw fod ei anafiadau yn rhai all beryglu bywyd.
Yn ôl y llu, chafodd gyrrwr y tractor ddim ei anafu.
Mae Heddlu Dyfed -Powys yn apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio ar yr A487 rhwng Hwlffordd a Niwgwl yn hwyr brynhawn Llun i gysylltu â nhw.
Mae swyddogion yn awyddus i siarad â modurwyr a oedd yn yr ardal ar y pryd, sydd â chamera yn eu cerbydau.
