Galw am adolygu trwydded Green GEN Cymru dros honiadau am ymddygiad contractwyr

Newyddion S4C
Dyfan Walters
Dafydd Walters - Green Gen

Mae tri aelod seneddol Cymreig wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr OFGEM yn galw ar y rheoleiddiwr ynni i adolygu trwydded Green GEN Cymru.

Yn y llythyr at Tim Jarvis, mae Ann Davies a Ben Lake o Blaid Cymru a David Chadwick o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cyhuddo gweithwyr ar ran y cwmni o "anwybyddu rheolau i amddiffyn tirfeddianwyr" wrth gynnal ymweliadau â thir ar hyd llinell arfaethedig Tywi Wysg.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Green GEN Cymru bod disgwyl i bobl sydd yn gweithio ar eu rhan gadw at eu polisiau a'u bod yn annog tirfeddianwyr i gysylltu gyda nhw os oes pryderon penodol.

Mewn datganiad dywedodd OFGEM bod creu seilwaith trydan newydd yn hanfodol, ond mae disgwyl i gwmnïau gwrdd gofynion eu trwydded, ac mae cydymffurfio gydag amodau trwydded yn fater difrifol.

Cefndir y cynllun

Mae Green GEN Cymru yn bwriadu adeiladu o leiaf tri llwybr o beilonau i gysylltu ffermydd gwynt yn y canolbarth a'r gorllewin gyda'r Grid Cenedlaethol. 

Mae gan Green GEN Cymru drwydded IDNO gan OFGEM sydd yn caniatáu iddyn nhw adeiladu a rhedeg rhwydweithiau dosbarthu trydan.

Ym mis Gorffennaf, fe ddyfarnodd yr Uchel Lys y dylai Green GEN roi rhybudd digonol i dirfeddianwyr a thenantiaid cyn dod ar eu tir i gynnal archwiliadau a bod yna ddiffyg ystyriaeth wedi bod o bryderon bioddiogelwch wrth ymweld â ffermydd.

Image
Fe fydd peilonau yn rhedeg drwy’r safle hwn ger Llanymddyfri
Fe fydd peilonau yn rhedeg drwy’r safle hwn ger Llanymddyfri

Mae gan y cwmni bwerau statudol i gael mynediad i dir o ganlyniad i waith ar yr hyn allai fod yn isadeiledd ynni o bwysigrwydd cenedlaethol.

Ers y dyfarniad, mae yna wrthdaro wedi bod rhwng gweithwyr sydd yn gwneud archwiliadau ar ran Green GEN Cymru a thirfeddianwyr mewn sawl ardal.

'Dim unrhyw fath o rybudd'

Yn y llythyr at OFGEM, mae Ann Davies AS yn honni bod contractwyr wedi mynd ar dir preifat aelod o'r teulu heb ganiatâd a bu'n rhaid galw yr heddlu. 

Mae hi'n cwyno nad oes rhybudd digonol wedi bod:

"Gethon ni yn ein esiampl ni cymydog yn ffonio i ddweud bod nhw ar y caeau.

"Fe aethon ni lan yn syth. Wnes i ofyn iddyn nhw adael y cae. Doedden ni ddim wedi cael unrhyw fath o rybudd. Dim llythyron, dim gwybodaeth.

"A dyma nhw wedi gosod dril a mynd i wneud y boreholes. Yn anffodus, fe halodd e bedair awr a hanner i gael nhw off y cae, ac odd hynny dim ond gyda help yr heddlu.

"Un esiampl ydw i, mae dwsinau o esiamplau tebyg ble dyw nhw ddim wedi bod yn rhoi rhybudd. Dyw'r ymddygiad yma ddim yn ddigon da.

"Dyna pam ni'n edrych ar OFGEM i edrych ar y drwydded."

Ymateb Green GEN Cymru

Wrth ymateb i sylwadau Ann Davies, dywedodd Guto Davies, Pennaeth Materion Allanol Green GEN Cymru nad "oedd yn barod i drafod materion unigolion yn gyhoeddus."

Fe honnodd bod yna dri achos arall ble mae gweithwyr ar ran y cwmni wedi gorfod ffonio'r heddlu a mewn un achos bod "unigolyn wedi mynd a chymryd goriad allan un o'r peiriannau."

Dywedodd wrth Newyddion S4C bod angen "cymryd cam yn ôl i ystyried pam mae'r math o waith yma yn hollbwysig."

"Mae'n bwysig fel bod ni yn gallu cael y gwaith sydd ei angen er mwyn gwneud yn siwr bod y seilwaith yma yn cael ei ddatblygu yn effeithiol.

"Seilwaith sydd ei wir ei angen ar Gymru. Mae'r seilwaith grid yn hollbwysig i fusnesau a chymunedau ac mae'n bwysig i bobl sydd am weld biliau yn mynd i lawr.

"Ar weithgareddau ble da ni yn mynd ar y tir da ni yn cymryd rheina o ddifrif. Mae'n hollbwysig bod ni yn gweithio gyda pobl sydd ar y tir.

"Lle mae yna enghreifftiau ble da ni heb wneud pethau yn iawn, da ni yn gofyn i bobl ddod atom ni er mwyn i ni edrych ar y ffeithiau a delio ag ymateb ble mae angen."

Pryderon tirfeddianwyr

Fe godwyd pryderon rai wythnosau nol ar raglen Newyddion S4C gan dirfeddianwyr am ymddygiad contractwyr Green GEN Cymru. 

Yn ôl Dyfan Walters, ffermwr o ardal Llanymddyfri sydd yn ymgyrchu yn erbyn peilonau yn Nyffryn Tywi, dyw'r sefyllfa ddim wedi gwella:

"Yn sicr, gwaethygu. Mae'r pwyse maen nhw yn rhoi ar ffermwyr ar y foment yn anodd credu.

"Mae'n neis i weld Ann Davies yn rhannu ei phrofiad hi o drio gweithio'r gyda'r cwmni. Dyw nhw ddim yn dilyn eu polisiau eu hunain."

Image
Dyfan Walters
Dyfan Walters

Ychwanegodd Mr Walters: "Dyw nhw ddim yn bodlon rhannu unrhyw wybodaeth ar y gwaith maen nhw yn meddwl gwneud, fel maen nhw'n mynd i wneud y gwaith, shwd maen nhw yn mynd i sicrhau fod popeth yn cael ei wneud yn saff.

"Shwd maen nhw yn mynd i sicrhau fod biosecurity yn mynd i gael ei edrych ar ôl. So nhw yn fodlon rhannu manylion yswiriant gyda ni.

"Mae'r enghreifftiau yn mynd mlaen a mlaen."

Mae Guto Davies yn gwrthod yr honiadau gan yr aelodau seneddol bod ei gwmni yn anwybyddu'r rheolau:

"Tydw i ddim yn cydnabod y fath o iaith sydd yn cael ei ddefnyddio i geisio dweud bod y busnes yn gwneud hyn ar draws y prosiect.

"Tydi hynny ddim ein profiad ni fel busnes a'r bobl sydd yn gweithio gyda ni. Lle mae yna enghfreifftiau, da ni gofyn i bobl ddod aton ni."

Dywedodd Mr Davies ei fod e'n hyderus bod Green GEN Cymru yn cadw at ofynion y drwydded gan OFGEM a'u bod nhw'n "fodlon cydweithio" gyda'r rheoleiddiwr os oes yna bryderon neu gwestiynau pellach.

Ymateb OFGEM

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran OFGEM wrth Newyddion S4C: "Mae adeiladu isadeiledd ar gyfer y rhwydwaith trydan sydd ei angen i greu system ynni mwy diogel yn hanfodol, ond mae'n rhaid i gwmnïau gwrdd â'u gofynion os ydyn nhw yn dal trwydded.

"Mae cydymffurfio ag amodau trwydded yn fater difrifol, ac fe fyddwn ni yn cymryd y camau priodol os nad yw cwmnïau yn cwrdd â'r gofynion hynny."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.