Athro a oedd yn rhan o gyfres deledu'n osgoi carchar ar ôl ymosodiad rhywiol ar ferch 17 oed
Mae athro cerddoriaeth a oedd wedi ymddangos ar gyfres deledu boblogaidd wedi derbyn dedfryd o garchar wedi’i ohirio ar ôl pledio’n euog i ymosod yn rhywiol ar ferch 17 oed.
Roedd Gareth Ritter, sydd yn 44 oed, o Fryngwyn, Sir Fynwy, yn wyneb cyfarwydd ar y gyfres ‘Educating Cardiff’ ar Channel 4.
Roedd Ritter wedi gwadu’r cyhuddiad yn wreiddiol, ond yn ystod yr achos yn Llys y Goron Merthyr fis diwethaf, fe newidiodd ei ble.
Fe wnaeth hefyd bledio’n euog i ddau gyhuddiad o greu lluniau anweddus o blentyn a chyhuddiad o ddosbarthu llun anweddus o blentyn.
Mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mercher, fe wnaeth y barnwr Dyfed Llion Thomas roi dedfryd o 33 mis o garchar i Ritter, wedi’i ohirio am 30 mis.
'Gorfodi'
Yn 2015, pan oedd yn 33 oed, fe wnaeth Ritter ymosod ar y ferch 17 oed yn ei fflat ym Mae Caerdydd ar ôl cynnig ei gyrru adref ar ôl digwyddiad yn y ddinas.
Roedd y ddau yn sefyll ar y balconi ac yn trafod yr olygfa cyn i Mr Ritter wneud cyfeiriad at ei bronnau, cyn ei chyffwrdd yn rhywiol.
Yn fuan wedyn, gofynnodd Mr Ritter i’r ferch a oedd am ddod i weld yr ystafell wely, cyn ei chyffwrdd yn amhriodol eto a cheisio ei chusanu.
Dywedodd y barnwr: “Mi wnes di wneud sylw ar ei hymddangosiad a’r ffordd yr oedd wedi’i gwisgo, a wnaeth iddi deimlo’n lletchwith ac anghyfforddus.
“Mi wnes di roi dy law ar waelod ei chefn, heb wahoddiad, a’i symud i lawr at ei phen ôl, unwaith eto, heb wahoddiad.
“Doedd hi ddim eisiau unrhyw ran o’r cyswllt rhywiol y gwnaethoch chi ei orfodi arni y noson honno.
“Fe wnaeth hi ei gwneud hi’n gwbl glir nad oedd hi eisiau unrhyw fath o gyswllt rhywiol."
Lluniau
Clywodd y llys fod y dioddefwr wedi gwthio Ritter oddi wrthi a dweud wrtho “ei bod hi’n ferch dda ac nad oedd hi’n gwneud pethau o’r fath oherwydd ei bod hi’n mynd i ysgol Gristnogol”.
Ar y ffordd yn ôl i gartref y ferch, gofynnodd Ritter iddi a oedd yn bwriadu dweud unrhyw beth am y digwyddiad, a dywedodd: “Does dim rhaid i ni ddweud wrth neb am hyn.”
Fe wnaeth y dioddefwr ddweud wrth yr heddlu am yr ymosodiad pan wnaeth swyddogion gysylltu â hi ynghylch delweddau anweddus ohoni oedd wedi cael eu darganfod ym meddiant Ritter.
Roedd y lluniau – a ddisgrifiwyd yn y llys fel rhai ‘o natur bersonol’ – wedi’u trosglwyddo o ddyfais tabled cariad y ferch yn 2015, clywodd y llys, ac wedi hynny roedd Ritter wedi cael gafael arnyn nhw.
Cafodd Ritter ei ddisgrifio yn y llys fel rhywun oedd yn adnabyddus yn ei gymuned leol, ac a oedd wedi ennill parch yn ei rôl fel arweinydd band pres.
Dywedodd y barnwr: “Yn ystod yr achos, dywedodd y dioddefwr wrth y llys yr hyn y mae llawer iawn o ddioddefwyr ymosodiadau rhywiol yn ei ddweud – pwy fydd yn fy nghredu i?
“Wel, mae pobl yn ei chredu hi, Mr Ritter, ac mae pawb yn gwybod bod yr hyn a ddywedodd hi wrth y llys yn wir.”
Llun: PA