Menyw o Gymru yn ceisio dod â chorff ei chwaer adref o Nigeria

Claire Chadwick

Mae menyw yn apelio am arian er mwyn gallu dod â chorff ei chwaer adref o Nigeria ar ôl iddi farw yno.

Roedd Claire Chadwick o Gaerdydd, 37 wythnos yn feichiog pan fu hi a'i babi farw.

Ar dudalen GoFundMe, mae ei chwaer, Shannon, yn dweud bod Claire wedi bod yn byw yn Nigeria yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

"Gyda thristwch mawr, mae ein teulu yn rhannu’r newyddion am farwolaeth sydyn ein chwaer Claire. Roedd hi’n 37 wythnos yn feichiog ac, yn drasig, fe wnaethon ni golli ein merch fach annwyl hefyd," meddai. 

Y flaenoriaeth nawr, meddai, yw “dod â Claire yn ôl i Brydain er mwyn iddi gael ei chladdu gyda'i theulu o'i chwmpas”.

Ychwanegodd fod y trefniadau a'r camau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â dychwelyd corff o dramor yn “gymhleth ac yn anodd eu rheoli”, ac nad oedd y teulu wedi disgwyl gorfod delio â hynny.

Roedd y teulu wedi gosod targed o £10,000 er mwyn helpu i dalu'r costau, ac mae'r swm hwnnw bellach wedi'i godi drwy'r dudalen GoFundMe.

Mewn neges ddiweddar ar y dudalen, dywedodd ei chwaer fod y “gefnogaeth wedi bod yn anhygoel. Mae ein cymuned WASTAD yn dod at ei gilydd mewn cyfnod anodd.”

Llun: o'r dudalen GoFundMe

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.